![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2e/Misty_Morning_in_the_Brecon_Beacons_National_Park.jpg/640px-Misty_Morning_in_the_Brecon_Beacons_National_Park.jpg&w=640&q=50)
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
parc cenedlaethol yng de Cymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Parc cenedlaethol yn ne Cymru yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n un o dri yng Nghymru. Mae'r parc yn gorwedd rhwng trefi Llandeilo, Llanymddyfri, Aberhonddu, Y Gelli, Pont-y-pŵl a Merthyr Tudful. Fe'i ffurfiwyd ym 1957.
![]() | |
Math | un o barciau cenedlaetho Cymru a Lloegr, Geoparc ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 33,485 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, Torfaen, Caerffili ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,344 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 51.88°N 3.4°W ![]() |
Cod SYG | W18000001 ![]() |
Rheolir gan | Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol ![]() |
Manylion | |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/c/cb/Pen_y_Fan%2C_Fan_Gyhirych%2C_Corn_Du.png/640px-Pen_y_Fan%2C_Fan_Gyhirych%2C_Corn_Du.png)
- Mae hon yn erthygl am y parc cenedlaethol. Am y mynyddoedd yr enwir y parc ar eu hôl, gweler Bannau Brycheiniog.
Yn Ebrill 2023, cyhoeddwyd y byddai'r awdurdod yn defnyddio ei enw Cymraeg 'Bannau Brycheiniog' yn unig o hyn ymlaen.[1]
Canolbwynt y parc yw mynyddoedd uchel Bannau Brycheiniog. Yng ngorllewin y parc mae'r Fforest Fawr a'r Mynydd Du, rhostir eang, ac yn y dwyrain y tu draw i Fannau Brycheiniog mae mynyddoedd o'r un enw, Mynydd Du, ar y ffin â Lloegr.
Yn y parc mae nifer o lwybrau cerdded a lonydd beicio. Mae arwynebedd o 1344 km² ganddo. Gwelir sawl rhaeadr yn y parc, gan gynnwys Sgŵd Henrhyd sydd 27 medr o uchder. Yn ardal Ystradfellte, ceir sawl ogof nodedig, megis Ogof Ffynnon Ddu. Gwelir merlod mynydd Cymreig yn pori yn y parc.