tref yn Ne Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned yng nghanol Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llandeilo. Fe'i henwir ar ôl yr hen eglwys i Sant Teilo. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn cael ei hadnabod fel Llandeilo Fawr a gorweddai yng nghwmwd Maenor Deilo, heb fod ymhell o safle Castell Dinefwr, sedd frenhinol tywysogion y Deheubarth. Mae Gorsaf reilffordd Llandeilo ar linell Rheilffordd Calon Cymru.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | Teilo |
Poblogaeth | 1,787 |
Gefeilldref/i | Konk-Leon |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8841°N 3.9992°W |
Cod SYG | W04000513 |
Cod OS | SN625225 |
Cod post | SA19 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ann Davies (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cynrychiolir Llandeilo yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ann Davies (Plaid Cymru).[1][2]
Roedd Llandeilo Fawr yn sedd esgobaeth Gymreig a mynachlog enwog. Mae'n debyg i Lyfr Sant Chad gael ei hysgrifennu yno yn hanner cyntaf yr 8g.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandeilo ym 1996. Am wybodaeth pellach gweler:
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llandeilo (pob oed) (1,795) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandeilo) (851) | 48.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandeilo) (1289) | 71.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llandeilo) (355) | 40.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.