Remove ads
pentref yn Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Myddfai. Saif ar odre gogleddol y Mynydd Du ac ychydig i'r de o dref Llanymddyfri, gyda Mynydd Myddfai i'r dwyrain.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 398, 367 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5,426.9 ha |
Cyfesurynnau | 51.956°N 3.788°W |
Cod SYG | W04000548 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Cynrychiolir ardal Myddfai yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]
Yn yr Oesoedd Canol roedd Myddfai yn un o faenorau y Cantref Bychan ac yn ddiweddarach yn rhan o Arglwyddiaeth Llanymddyfri.
Daeth y pentref yn enwog fel cartref Meddygon Myddfai, a gysylltir â chwedl Llyn y Fan Fach. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Mihangel, ac mae Morgan Owen, Esgob Llandaf yn y 17g, oedd yn frodor o'r pentref, wedi ei gladdu o'i mewn.
Yn 2007 adroddwyd bod y Tywysog Siarl wedi prynu tŷ Llwynywermwd gerllaw. Cafwyd cryn feirniadu ar ei fwriad i osod y tŷ fel cartref gwyliau.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Myddfai (pob oed) (398) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Myddfai) (196) | 49.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Myddfai) (261) | 65.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Myddfai) (52) | 31.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.