Remove ads
pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanllwni. Saif y pentref ar hyd y briffordd A485, yn ymestyn am tua 4 km, fymryn i'r de-orllewin o Lanybydder. I'r de o'r pentref mae Mynydd Llanllwni. Cysegrwyd yr eglwys, yn dyddio o'r 16g, i Sant Luc, ond gynt i Sant Llwni.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 638, 653 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,672.84 ha |
Cyfesurynnau | 52.0331°N 4.2042°W |
Cod SYG | W04000536 |
Cod OS | SN489395 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Heblaw pentref Llanllwni, mae'r gymuned yn ymestyn hyd at lan ddeheuol Afon Teifi ac yn cynnwys copa Mynydd Llanybydder (408 m). Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 676 gyda 72.19% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.
Cynrychiolir cymuned Llanllwni yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanllwni (pob oed) (638) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanllwni) (367) | 58.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanllwni) (416) | 65.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llanllwni) (119) | 41.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.