pentref From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanfihangel-ar-Arth. Lleolir y pentref presennol o gwmpas cyffordd y B4336 rhwng Llanllwni a Llandysul o’r dwyrain i’r gorllewin a’r B4459 rhwng Capel Dewi i Bencader o’r gogledd i’r de. Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd poblogaeth Plwyf Llanfihangel ar Arth (sy’n cynnwys pentrefi cyfagos) yn 2,727 gyda 50% yn wryw a 50% yn fenyw.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,213, 2,127 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 6,254.65 ha |
Cyfesurynnau | 52.0167°N 4.25°W |
Cod SYG | W04000523 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ann Davies (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir Llanfihangel-ar-Arth yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ann Davies (Plaid Cymru).[1][2]
Llanfihangel-ar-Arth yw’r pentref mwyaf gogleddol yn y gymuned, cyfagos i'r Afon Teifi. Mae ei enw yn dod o eglwys y plwyf, Sant Mihangel, a sefydlwyd yn y 6g, yn ôl pob tebyg.
Defnyddiwyd tolldy yn y pentref yn y degawd 1840-1850 i gasglu tollau o deithwyr a digwyddodd un o derfysgoedd Rebecca yno pan ddinistriwyd y glwyd gan 150 o bobl ym mis Mehefin, 1843. Adeilad un llawr oedd y tolldy a nawr defnyddir ef fel byngalo.
Âi'r rheilffordd o Gaerfyrddin i Lanbedr Pont Steffan drwy Lanfihangel a gafodd ei orsaf ei hun. Ond caewyd hi ar gyfer teithwyr yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Nawr dim ond rhan y trac sydd ar ôl. O’r 1840au i’r 1920au defnyddiwyd rhai o dai’r pentref fel gweithdai gwau pan oedd y diwydiant gwlân yn bwysig yn yr ardal.
Yn ogystal â’r eglwys, mae dau dafarn ac ysgol a agorywd yn 1864 ond caewyd yn 2003 ac nawr mae hi’n gwasanaethu fel canolfan gymunedol. Mai rhai busnesau bach yn y pentref ynghyd â storfa bwrdd trydan. Mae’r rhain yn ogystal ag amaethyddiaeth yn darparu cyflogaeth yn yr ardal. Mae gan y pentref garnifal blynyddol a chynhelir rhan o Ŵyl Bibau Pencader yn yr eglwys.
Mae pentref Llanfihangel ar Arth wedi newid llawer ers gau’r Ysgol yn 2003. Ers hynny mae’r siop bentref a’r Swyddfa Post wedi cau. Bellach, Neuadd yr Ysgol yw canolbwynt y pentref ac sy’n rhoi’r egni i gadw'r gymuned yn fyw.
Mae 6 pentref yn y plwyf:
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanfihangel-ar-Arth (pob oed) (2,213) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel-ar-Arth) (1,221) | 57% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel-ar-Arth) (1427) | 64.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanfihangel-ar-Arth) (311) | 33.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.