From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd cyfrifiad o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, a adnabyddir yn gyffredinol fel Cyfrifiad 2001, ar ddydd Sul 29 Ebrill 2001. Hwn oedd y 19fed gyfrifiad yn y Deyrnas Unedig. Trefnwyd Cyfrifiad 2001 gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, a gan Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban yn yr Alban a gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon. Mae canlyniadau manwl yn ôl ardal, ardal cyngor, ward ac ardal allbwn ar gael ar eu gwefannau.
Cyfrifiad blaenorol | Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 1991 |
---|---|
Cyfrifiad nesaf | Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011 |
Ardal | Deyrnas Unedig |
Awdurdod | Swyddfa Ystadegau Gwladol |
Dyddiad y Cyfrifiad | 29 Ebrill 2001 |
Roedd nifer o bobl yn anniddig efo penderfyniad llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio cynnwys cwestiwn am y gallu i siarad neu ddeall yr iaith Gymraeg ar y ffuflenni yn rhannau eraill o'r DU. Roedd academyddion a haneswyr yn awyddus i gael gwybod nifer y siaradwyr Cymraeg yn Lloegr a mannau eraill, ond gwrthodwyd eu cais fel un "anymarferol".
Yng Nghymru cafwyd ymgyrch amlwg a nifer o brotestiadau gan grwpiau ac unigolion am nad oedd y Cyfrifiad yn cynnwys blwch i nodi cenedligrwydd Cymreig.[2] Gwrthodai sawl person lenwi'r ffurfleni am nad oeddent yn barod i ddisgrifio eu hunain fel "Prydeinwyr", er i'r awdurdodau fygwth dwyn y gyfraith ar unrhyw un a wnâi hynny. Gan fod rhai miloedd, o leiaf, wedi gwrthod, ni chafwyd achosion llys yn erbyn y rhai a oedd yn gwrthod. Yn ogystal â'r rhai a wrthododd yn llwyr, penderfynodd nifer [15.7%] o'r boblogaeth ysgrifennu "Cymro" yn lle ticio'r blwch yn nodi "Prydeinwr(aig) gwyn" neu anwybyddu'r cwestiwn.[3] Roedd 3,700 wedi glynu sticer dros y cwestiwn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.