Prydeindod
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Prydeindod neu Prydeinrwydd yw'r term a ddefnyddir am ideoleg wleidyddol sy'n pwysleisio tebygrwydd honedig yn niwylliant a gwerthoedd trigolion Prydain Fawr neu'r Deyrnas Unedig, yn hytrach na'r gwahaniaethau rhwng Saeson, Albanwyr a Chymry. Mae fel rheol yn gysylltiedig ag undeboliaeth Brydeinig a gwrthwynebiad i genedlaetholdeb Albanaidd, Cymreig, Gwyddelig, a Seisnig.
Gwlad / Grŵp | Canran |
---|---|
Yr Alban | 20% |
Cymru | 35% |
Lloegr | 48% |
Gogledd Iwerddon | 64% |
Pobl wyn | 45% |
Pobl heb fod yn wyn | 57% |
Yn y cyfnod diweddar mae Prydeindod wedi ei bwysleisio gan Gordon Brown, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Yn Ionawr 2006 rhoddodd araith i Gymdeithas y Ffabiaid yn galw am "Ddiwrnod Prydeindod" i ddod yn ŵyl flynyddol.
Awgrymwyd gan feirniaid Gordon Brown fod hyn yn ymateb i wrthwynebiad rhai Saeson i gael Albanwr yn Brif Weinidog. Beirniadwyd y syniad o Brydeindod gan genedlaetholwyr; er enghraifft yn 1966 cyhoeddodd J.R. Jones gyfrol Prydeindod yn ymosod ar yr ideoleg. Dywedodd Gwynfor Evans:
Yn ôl ymchwiliad yn 2001 (2006 i Ogledd Iwerddon), dim ond yng Ngogledd Iwerddon y mae mwyafrif o'r boblogaeth yn eu hystyried eu hunain yn Brydeinig mewn unrhyw ystyr. Yn y tair gwlad arall mae'r nifer sy'n eu hystyried eu hunain yn Brydeinwyr yn hytrach na Saeson, Albanwyr neu Gymry wedi gostwng yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.
Mae pobl wyn yn llai tebyg i'w gweld eu hunain fel Prydeinwyr na lleiafrifoedd ethnig. Ymddengys fod hyn yn arbennig o wir yn Lloegr, gyda thuedd gryf i leiafrifoedd ethnig i'w gweld eu hunain fel Prydeinwyr yn hytrach na Saeson.
Yn yr Alban dim ond 20% o'r boblogaeth sy'n eu hystyried eu hunain yn "Brydeinwyr". Dyma'r ffigwr isaf yn y DU. Mae hanes a daearyddiaeth wedi tueddu i atgyfnerthu arwahanrwydd yr Albanwyr. yn y 18g hyrwyddwyd y syniad gan rhai Saeson ac ambell Albanwr o newid enw'r Alban i 'Ogledd Prydain' (Northern Britain). Erbyn heddiw, gyda'r SNP yn rheoli'r wlad a'r posibilrwydd y bydd yr Alban yn datganu annibyniaeth, mae Prydeindod ar drai yno.
Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn fwy cymhleth, am resymau hanesyddol a daearyddol. Cofnodir yn arolwg 2001 fod 35% o boblogaeth Cymru yn eu hystyried eu hunain yn "Brydeinwyr" o ryw fath. Ond nid yw hynny'n adlewyrchu'r sefyllfa ymhlith y Cymry eu hunain o reidrwydd. Mae tua 30% o boblogaeth Cymru heddiw yn bobl a aned y tu allan i Gymru ac mae'r mwyafrif ohonyn nhw'n Saeson.
Dylid gwahaniaethu yn ogystal rhwng y termau Brython a Prydeiniwr. Enw hynafol ar y Cymry yw Brython (gall fod yn air lluosog hefyd) ac fe'i defnyddiwyd felly gan y Cymry am ganrifoedd, ond termau pur ddiweddar yw Prydeiniwr a Phrydeinig ac nid ydynt yn gyfystyr. Ceir lliaws o enghreifftiau hanesyddol o'r Saeson eu hunain yn cyfeirio at y Cymry fel y Britons (ond heb ddefnyddio'r term ar gyfer y Saeson) a'r iaith Gymraeg fel y British tongue. Dim ond gyda thwf grym Teyrnas Prydain Fawr a'r Ymerodraeth Brydeinig y dechreuodd hynny newid.
Yng Ngogledd Iwerddon mae arolwg a wnaed yn 2006 (gweler uchod) yn dangos fod 64% o'r boblogaeth yn eu hystyried eu hunain yn "Brydeinwyr". Dyma'r ffigwr uchaf yn y DU. Yn ddaearyddol ac yn hanesyddol nid yw Gogledd Iwerddon yn rhan o Brydain, er ei bod yn y DU, ond mae mwyafrif y boblogaeth yn Unoliaethwyr ac mae'n debyg fod y canran yn adlewyrchu hynny: prin yw'r Catholigion a gweriniaethwyr yn y dalaith a fyddai'n ystyried eu galw eu hunain yn "Brydeinwyr" yn hytrach na Gwyddelod.
Peth cyffredin yn Lloegr hyd yn oed heddiw yw defnyddio'r termau "Prydeinig" a "Seisnig" gyda'i gilydd fel termau cyfystyr. Mae hyn yn deillio o gyfnod datblygiad yr Ymerodraeth Brydeinig. Cyn y 18g prin iawn yw'r defnydd o'r term "Prydeinwyr" (yn yr ystyr ddiweddar) o gwbl (cf. Cymru uchod). Ond wrth i Brydeindod gyrraedd ei phenllanw yn oes Victoria ceir llu o enghreifftiau o ddefnyddio'r termau fel Prydeinig a Seisnig, Prydain a Lloegr, fel petaent yn gyfystyr. Dyma dwy enghraifft o blith llawer, gan yr hanesydd parchus R. C. Collingwood, yn ei lyfr ar y Brydain Rufeinig a fu'n llyfr safonol ar y cyfnod am flynyddoedd:
Ac eto, ar yr Ymerodraeth Brydeinig yn India:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.