tref yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref hynafol a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, ar lan y ddwy afon Gwendraeth — afon Gwendraeth Fach ac afon Gwendraeth Fawr — yw Cydweli (Saesneg: Kidwelly). Mae Cydweli'n adnabyddus drwy Gymru am yr hwiangerdd draddodiadol Hen Fenyw Fach Cydweli.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 3,692 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.736°N 4.307°W |
Cod SYG | W04000506 |
Cod OS | SN407067 |
Cod post | SA17 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Lee Waters (Llafur) |
AS/au y DU | Nia Griffith (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae'r cymuned hefyd yn cynnwys pentref Mynyddygarreg ar lannau'r Gwendraeth Fach. Roedd y canolwr rygbi a darlledwr enwog Ray Gravell, neu "Grav", yn frodor o'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[2]
Rhoddwyd siarter i'r dref tua 1115 gan y brenin Harri I o Loegr. Mae Castell Cydweli yn un o'r esiamplau gorau o'i fath yn ne Cymru, ac yn un o gadwyn a adeiladwyd ar draws y wlad i geisio gorchfygu'r Cymry.
Yn 1136 gwnaeth y dywysoges Gwenllian, chwaer Owain Gwynedd arwain brwydr yng Nghydweli yn erbyn y Normaniaid. Mae maes y gad yn cael ei adnabod hyd heddiw fel Maes Gwenllian.
Ymwelodd Gerallt Gymro â Chydweli yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Tyfodd Cydweli yn ddirfawr yn ystod y chwyldro diwydiannol. Roedd yno waith briciau a gwaith tin mawr, ac mae yno erbyn hyn amgueddfa ddiwydiannol.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Cydweli (pob oed) (3,523) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cydweli) (1,510) | 44.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cydweli) (2677) | 76% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16–64 oed sydd mewn gwaith (Cydweli) (663) | 44% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.