tref farchnad a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref farchnad a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Llanymddyfri (Seisnigiad: Llandovery). Saif y dref ar lan Afon Tywi lle mae'r priffyrdd A40 ac A483 yn cyfarfod. Enwyd epoc, sy'n rhaniad o amser daearegol, ar ôl y dref: Epoc Llanymddyfri.
Math | cymuned, tref |
---|---|
Poblogaeth | 2,870, 1,987 |
Gefeilldref/i | Pluguen |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.995°N 3.795°W |
Cod SYG | W04000514 |
Cod OS | SN763346 |
Cod post | SA20 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ann Davies (Plaid Cymru) |
Mae Capel Coffa William Williams (Pantycelyn) yn y dref; mae ef wedi ei gladdu yn Llanfair-ar-y-bryn gerllaw. Yma hefyd mae ysgol breswyl beifat Coleg Llanymddyfri.
Cynrychiolir Llanymddyfri yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ann Davies (Plaid Cymru).[1][2]
Adeiladwyd Castell Llanymddyfri gan y Normaniaid ym 1110, ond cipiwyd ef gan y Cymry bron yn syth. Newidiodd ddwylo nifer o weithiau yn y ganrif a hanner nesaf. Yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr, defnyddiwyd y castell gan Harri IV, brenin Lloegr, a dienyddiodd Llywelyn ap Gruffudd Fychan yn y dref. Ymosododd byddin Glyn Dŵr ar y castell ym 1403, ac mae wedi bod yn adfail ers hynny.
Roedd Rhys Prichard ("Yr Hen Ficer" neu "Y Ficer Prichard") yn enedigol o Lanymddyfri ac yn ficer yma. Sefydlwyd Banc yr Eidion Du gan borthmon lleol yn Llanymddyfri ym 1799.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanymddyfri (pob oed) (2,065) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanymddyfri) (856) | 42.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanymddyfri) (1439) | 69.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanymddyfri) (397) | 43.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.