Remove ads
pentref yn Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanegwad. Saif y pentref ar y briffordd A40 yn yr ongl a ffurfir lle mae Afon Cothi yn ymuno ag Afon Tywi, tua hanner y ffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,473, 1,469 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5,382.85 ha |
Cyfesurynnau | 51.8667°N 4.15°W |
Cod SYG | W04000518 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ann Davies (Plaid Cymru) |
Heblaw pentref Llanegwad ei hun, mae'r Gymuned yn cynnwys Nantgaredig, Pontargothi, Cwrt-henri, a Felingwm.
Cynrychiolir Llanegwad yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ann Davies (Plaid Cymru).[1][2]
Sefydlwyd eglwys plwyf Llanegwad gan Sant Egwad (bl. 7g). Dyddia'r eglwys bresennol i 1849, ond mae bellach wedi cau.
Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 1,388 gyda 76.18% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanegwad (pob oed) (1,473) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanegwad) (847) | 59.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanegwad) (1042) | 70.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanegwad) (199) | 33.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.