pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Y Betws.[1]
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 2,175, 2,398 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,115.68 ha |
Cyfesurynnau | 51.787°N 3.982°W |
Cod SYG | W04000492 |
Cod OS | SN633116 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ann Davies (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ann Davies (Plaid Cymru).[2][3]
Gorwedd cymuned Y Betws rhwng Afon Aman, sydd i’r gogledd, ac Afon Cathan i’r De, sy’n dynodi’r ffin sirol rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Abertawe. O edrych i’r gorllewin, gwelir dyffryn eang y Llwchwr. Yna gwelir Mynydd y Betws, sy’n ffurfio ochr ddeheuol Dyffryn Aman, yn codi i uchder o 371m ym Mhenlle’r Castell, sydd dafliad carreg tu allan i’r ffin gymunedol.
Fel nifer o gymunedau eraill yn Nyffryn Aman, cafodd cyfnod y diwydiannau trymion gryn ddylanwad ar y Betws. Gwelwyd cyfnod pan oedd sawl gwaith glo yn y gymuned, ac roedd y bobl leol yn dibynnu ar y diwydiant glo am waith a bywoliaeth. Er fod gan y Betws nifer o nodweddion pentref glofaol bychan, sef y tai teras, y tafarndai, y capel a’r eglwys, gorwedd y gymuned wrth ymyl tir comin Mynydd y Betws, ac nid yw’r gymuned erioed wedi colli’r awyrgylch gwledig, ac mae llethrau mynydd y Betws yn frith o ffermydd, tyddynnod a bythynnod.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Betws (pob oed) (2,175) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Betws) (1,109) | 53.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Betws) (1746) | 80.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Betws) (338) | 37.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.