pentref yn Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Cil-y-cwm[1] (hefyd: Cilycwm). Saif ar Afon Gwenlais, ychydig i'r gogledd o'r fan lle mae'n ymuno ag Afon Tywi ac i'r gogledd o dref Llanymddyfri. Mae'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Mihangel, yn dyddio o'r 15g, a cheir murluniau diddorol ynddi. Ceir ywen enfawr yn y fynwent.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 487, 436 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 7,442.35 ha |
Cyfesurynnau | 52.045°N 3.82°W |
Cod SYG | W04000497 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ann Davies (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae'r gymuned yn cynnwys rhan o fynyddoedd Elenydd; y pwynt uchaf yw Mynydd Mallaen (448m). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 472.
Cynrychiolir Cil-y-cwm yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ann Davies (Plaid Cymru).[2][3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Cil-y-cwm (pob oed) (487) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cil-y-cwm) (223) | 47.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cil-y-cwm) (304) | 62.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Cil-y-cwm) (67) | 31.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.