athro cylchynol ac emynydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Athro mewn ysgolion cylchynol ac emynydd oedd Morgan Rhys (1 Ebrill 1716 - 9 Awst 1779).
Morgan Rhys | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ebrill 1716 Cil-y-cwm |
Bu farw | 9 Awst 1779 Llanfynydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, emynydd |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Ganed ef yn Efail-fach, Cilycwm, Sir Gaerfyrddin. Bu'n gweithio fel athro cylchynol mewn nifer o bentrefi yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion o 1757 hyd 1775. Ceir cyfeiriadau canmoliaethus ato yn adroddiadau'r Welch Piety. Claddwyd ef ym mynwent Llanfynydd ar 9 Awst 1779.
Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o emynau, a hefyd nifer o farwnadau i ffigyrau crefyddol. Ceir ei emynau yng nghasgliadau emynau pob enwad. Yn 2001 cyhoeddodd Gwasg Gregynog argraffiad cain o ddetholiad o'i emynau wedi'u golygu gan D. Simon Evans, gyda darluniau gan Rhiain M. Davies.
Detholiad o'i emynau o Lyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.