From Wikipedia, the free encyclopedia
Math o arf cemegol yw nwy rhyfel. Mae arf cemegol yn wahanol i arf niwclear ac i arf fiolegel. Dyw rhyfela cemegol ddim yn dibynnu ar ffrwydradau.
Er fod rhyfela cemegol amrwd wedi bod yn rhan o ryfela ers miloedd o flynyddoedd,[1] adeg y Rhyfel Byd Cyntaf y defnyddiwyd nwy rhyfel modern gyntaf ar faes y gad.[2] I ddechrau defnyddid cemegau masnachol, gan gynnwys clorin a Ffosgen. Roedd y dulliau a ddefnyddid i wasgaru'r nwy adeg y brwydro yn amrwd ac yn aneffeithiol. Serch hynny gallai nifer y clwyfedig fod yn uchel. Roedd gwawr werdd i'r nwy ac iddo arglu'n gryf ac roedd hyn yn help i weld y nwy. Roedd ei lastwreiddio â dŵr yn lleihau ei effaith yn fawr.[3] Y defnydd cyntaf o arf cemegol oedd y defnydd o nwy dagrau. Doedd e ddim yn angeuol, ond yr oedd yn anablu'r milwyr rhag ymladd. Roedd clorin yn gwneud i'r llygaid, y trwyn, y gwddf a'r ysgyfaint yn lludus [4]
Y Ffrancod oedd y cyntaf i ddefnyddio gwenwyn mewn rhyfel gan ddefnyddio nwy dagrau.Y defnydd cyntaf gan yr Almaenwyr o gemegau oedd o bromin a saethwyd at y Rwsiaid yn Ionawr 1915 ger y dref a adnybyddir heddiw fel Bolimow yng Ngwlad Pwyl.[5]
Y tro cyntaf i ddefnydd eang o gemegau fel arf rhyfel yn y Rhyfel Byd Cyntaf oedd ar 22 Ebrill 1915 pan yr ymosododd yr Almaenwyr ar filwyr Ffrainc, Canada ac Algeria ar ddechrau Ail Frwydr Ypres. Ychydig a laddwyd ond clwyfwyd llawer.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.