![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/af/Afon_Ddyfrdwy_yn_Llangollen_-_River_Dee_flowing_through_Llangollen%253B_June_2023%253B_AONB_08.jpg/640px-Afon_Ddyfrdwy_yn_Llangollen_-_River_Dee_flowing_through_Llangollen%253B_June_2023%253B_AONB_08.jpg&w=640&q=50)
Llangollen
tref yn Sir Ddinbych lle cynhelir yr Eisteddfod Ryngwladol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llangollen. Mae'n enwog am ei phont hynafol a'i hadeiladau deniadol. Saif ar lan Afon Dyfrdwy. Mae priffordd yr A5 yn mynd drwy Langollen. Mae Caerdydd 165 km i ffwrdd o Langollen ac mae Llundain yn 264 km. Y ddinas agosaf ydy Caer, sy'n 31 km i ffwrdd.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | tref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 3,658 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Gerllaw | Afon Dyfrdwy ![]() |
Cyfesurynnau | 52.97°N 3.17°W ![]() |
Cod SYG | W04000165 ![]() |
Cod OS | SJ215415 ![]() |
Cod post | LL20 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Ken Skates (Llafur) |
AS/au | Becky Gittins (Llafur) |
![]() | |
Cau
Mae'n enwog am ei safle ar lan Afon Dyfrdwy a'r Eisteddfod Ryngwladol a gynhelir yno'n flynyddol ac sy'n denu cantorion a dawnswyr oddi wrth lawer o wledydd y byd. Cymerodd yr ysgol uwchradd, sef Ysgol Dinas Brân ei henw o'r castell lleol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Becky Gittins (Llafur).[1][2]