Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
gwyl ryngwladol a leolir yn Llangollen / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhelir Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn Llangollen yn yr haf am wythnos bob blwyddyn, gan ddechrau fel rheol ar ddydd Mawrth a gorffen ar y Sul.
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad blynyddol, gŵyl gerddoriaeth, eisteddfod |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1947 |
Lleoliad | Llangollen |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Sir Ddinbych |
Gwefan | http://international-eisteddfod.co.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ystod yr wythnos mae pobl o bob cwrdd o'r byd yn mynd yno i gystadlu yn y cystadleuthau cerddoriaeth a dawns. Ceir cystadleuwyr o tua hanner cant o wledydd yn cymryd rhan. Cynhelir gorymdaith liwgar ar ddechrau'r wythnos, gyda cystadleuwyr yn eu gwisg genedlaethol neu draddodiadol, a cheir dawnsio a chanu a chwarae cerddoriaeth gwerin o bob math tra'n cerdded trwy strydoedd Llangollen.
Mae yr eisteddfod wedi rhoi cychwyn i yrfaoedd nifer o berfformwyr a ddaeth yn enwog yn ddiweddarach; er enghraifft dywedodd Luciano Pavarotti mai perfformio yma gyda chôr o Modena a roddodd ysgogiad iddo i ddod yn ganwr proffesiynol. Un arall a enillodd yma ar gychwyn ei yrfa oedd y tenor Rhys Meirion.