pentref yn Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanddowror.[1] Saif 3 km i'r de-orllewin o Sanclêr ar yr A477. Roedd 796 o bobl yn byw yng nghymuned Llanddowror (sy'n cynnwys New Mill a Llanmilo hefyd), 28% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 851, 785 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,873.45 ha |
Cyfesurynnau | 51.8009°N 4.5336°W |
Cod SYG | W04000512 |
Cod OS | SN254144 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Simon Hart (Ceidwadwr) |
Mae Llanddowror yn enwog fel cartref Griffith Jones, sylfaenydd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig yn y 18g, am y rhan fwyaf o'i oes (1716-1761).
Ceir stori annhebygol i'r pentref fenthyg ei enw i Landour yn ne-orllewin yr Himalaya yng Ngogledd India yng n ghyfnod y Raj Prydeinig. Fe'i sefydlwyd yn 1827 fel ysbyty ar gyfer milwyr Prydeinig y cyfnod.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanddowror (pob oed) (851) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanddowror) (210) | 25.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanddowror) (569) | 66.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanddowror) (145) | 40.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.