![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/99/St_Mary%2527s_Church_-_geograph.org.uk_-_110353.jpg/640px-St_Mary%2527s_Church_-_geograph.org.uk_-_110353.jpg&w=640&q=50)
Tre-garth
pentref yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Llandygái, Gwynedd, Cymru, yw Tre-garth[1] neu Tregarth[2] ( ynganiad ). Fe'i lleolir rhwng Bethesda a dinas Bangor gerllaw Afon Ogwen. Saif Chwarel y Penrhyn rhwng Tregarth a Bethesda, a thyfodd y pentref yn bennaf fel trigfan i'r chwarelwyr. O'r boblogaeth o tua 1,000, mae o gwmpas 70% yn siarad Cymraeg.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.18°N 4.1°W ![]() |
Cod OS | SH603678 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au | Claire Hughes (Llafur) |
![]() | |
Cau
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Claire Hughes (Llafur).[4]