Pentref
clwstwr o aneddiadau (tai, siopau ayb) ychyig llai na thref / From Wikipedia, the free encyclopedia
Grŵp o dai, ac adeiladau eraill efallai, sy'n ffurfio uned lai na thref, yn enwedig, ond nid o reidrwydd, mewn ardal wledig yw pentref.[1]
- Mae pentre yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Gweler hefyd Pentre (gwahaniaethu).
Yng Nghymru ceir gwahaniaeth hanesyddol rhwng pentref fel y cyfryw a llan. Casgliad cryno o anneddau heb eglwys oedd pentref, yn aml mor fychan fel mai hamlet (pentref bychan iawn) fyddai'r term amdano heddiw.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/97/Habitat_sur_pilotis_au_B%C3%A9nin.jpg/640px-Habitat_sur_pilotis_au_B%C3%A9nin.jpg)
Mewn rhai gwledydd arferir y term 'pentref' neu air tebyg am ardaloedd bychain arbennig mewn dinasoedd, e.e. Greenwich Village yn Ninas Efrog Newydd.