![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/26/Old_chapel_in_Sling_-_geograph.org.uk_-_117032.jpg/640px-Old_chapel_in_Sling_-_geograph.org.uk_-_117032.jpg&w=640&q=50)
Sling
pentref bychan ger Llandygai, Gwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan bychan yng Ngwynedd yw Sling ( ynganiad ) . Mae'n gorwedd uwchben Dyffryn Ogwen yn Arfon, rhwng Mynydd Llandygái a Thregarth. Gan amlaf mae'n cael ei gyfrif yn rhan o bentref Tregarth, ond mae'n gorwedd ar wahân tua hanner milltir i fyny o'r pentref.
![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.181456°N 4.093815°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
![]() | |
- Erthygl am y pentref yw hon. Am yr arf (Saesneg: sling) gweler ffon-dafl.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]
Lleolir yr ysgol gynradd leol ar gyfer Tregarth a Mynydd Llandygai, Ysgol Bodfeurig, yn Sling.
Ystyr y gair benthyg o'r Saesneg sling yw "llain neu stribyn hirgul o dir, yn amlach na pheidio ar ymyl terfyn neu ffordd",[3] a dyna yn union leoliad Sling, yn stribyn o bentref bychan ar hyd y ffordd rhwng Tregarth a Mynydd Llandygai.
Brodor o Sling yw'r actor John Ogwen.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/26/Old_chapel_in_Sling_-_geograph.org.uk_-_117032.jpg/320px-Old_chapel_in_Sling_-_geograph.org.uk_-_117032.jpg)