Dusty Springfield
actores From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Mary Isabel Catherine Bernadette O'Brien OBE (16 Ebrill 1939 – 2 Mawrth 1999), a oedd yn cael ei hadnabod yn broffesiynol fel Dusty Springfield yn gantores bop o Loegr. O'r holl gantorion benywaidd a lwyddodd yn siartiau'r Unol Daleithiau, Springfield gafodd y dylanwad fwyaf ar y farchnad Americanaidd. Rhwng 1963 a 1970, llwyddodd 18 o'i senglau i gyrraedd y Billboard Hot 100. Cafodd ei phleidleisio'n Artist Benywaidd Prydeinig Gorau gan ddarllenwyr NME ym 1964, 1965 a 1968. Hefyd cafodd ei henwi ymysg y 25 perfformwraig roc benywaidd gorau erioed gan ddarllenwyr cylchgrawn Mojo, golygyddion cylchgrawn Q (2002) a chan banel o artistiaid ar y sianel deledu VH1 (2007).
Dusty Springfield | |
---|---|
Ffugenw | Dusty Springfield |
Ganwyd | Mary Isobel Catherine Bernadette O'Brien 16 Ebrill 1939 Llundain |
Bu farw | 2 Mawrth 1999 Henley-on-Thames |
Label recordio | United Artists Records, Atlantic Records, ABC Records, Philips Records, Mercury Records, Phonogram Records, Parlophone Records, 20th Century Fox Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | canwr, artist recordio, cyflwynydd teledu |
Arddull | cerddoriaeth yr enaid, rhythm a blŵs, cerddoriaeth boblogaidd, blue-eyed soul |
Math o lais | mezzo-soprano |
Tad | Gerard Anthony Joseph O'Brien |
Mam | Kay Ryle |
Gwobr/au | OBE, Rock and Roll Hall of Fame |
Gwefan | http://dustyspringfieldofficial.com/ |
llofnod | |
Fel ffan o gerddoriaeth soul Americanaidd, crëodd Dusty Springfield sain soul unigryw. Disgrifiwyd ei llais unigryw gan Burt Bacharach fel: "...three notes and you knew it was Dusty." Atgyfnerthwyd ei delwedd gan ei gwallt peroxide ar siap y 'beehive', ei cholur llygaid trwchus a'i ffrogiau min nos. Arweiniodd y ffaith nad oedd Springfield erioed mewn perthynas yn gyhoeddus at bobl yn cwestiynu ei rhywioldeb trwy gydol ei bywyd.
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.