Thomas Rowland Hughes
bardd a nofelydd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofelydd, dramodydd a bardd oedd Thomas Rowland Hughes neu T. Rowland Hughes (17 Ebrill 1903 – 24 Hydref 1949).[1] Roedd yn fab i chwarelwr o Lanberis, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw), yng ngogledd Cymru. Mae'n adnabyddus heddiw yn bennaf am ei nofelau am gymeriadau yn byw ac yn gweithio yn chwareli llechi y gogledd, ond yn ei ddydd yr oedd yn cael ei edmygu fel bardd yn ogystal. William Jones yw ei nofel enwocaf.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Thomas Rowland Hughes | |
---|---|
T Rowland Hughes gan David Bell - Amgueddfa Cymru | |
Ganwyd | 17 Ebrill 1903 Llanberis |
Bu farw | 24 Hydref 1949 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, cynhyrchydd radio |
Cau