William Jones (nofel)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofel gan T. Rowland Hughes yw William Jones, a gyhoeddwyd ym 1944.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Awdur ...
Clawr y llyfr | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | T. Rowland Hughes |
Cyhoeddwr | Gwasg Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1944 |
Genre | nofel |
Cau
Mae'n sôn am hanes chwarelwr yng Ngwynedd sy'n penderfynu gadael ei gymuned i chwilio am waith yng nglofeydd y De.
Mae'n disgrifio bywyd caled y chwarelwyr ar ddechrau'r 20g, a hwyrach mai hon yw'r unig nofel Gymraeg sydd yn rhoi darlun o fywyd yng nghymoedd y De diwydiannol tan i Gwenallt ysgrifennu ei nofel yntau Ffwrneisiau. Ceir ynddi yr ymadrodd "Cadw dy blydi chips!", sef mae'n debyg y tro cyntaf i reg ymddangos mewn llenyddiaeth Gymraeg (mewn llenyddiaeth ddiweddar, o leiaf).
Bu hefyd yn un o'r llyfrau Cymraeg cyntaf i'w recordio fel llyfr llafar ar gyfer y deillion. Gwnaed hynny gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn yr 1960au cynnar.[1]