rhanbarth daearyddol Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhanbarth answyddogol mwyaf deheuol Cymru yw De Cymru, sy'n ffinio â Chanolbarth Cymru i'r gogledd, Lloegr i'r dwyrain, Môr Hafren i'r de a Gorllewin Cymru i'r gorllewin. Mae'n cynnwys cymoedd De Cymru a Bannau Brycheiniog, a'r afonydd Wysg, Ogwr, a Thâf.
Yn hanesyddol, bu'r fwyaf o Dde Cymru yn rhan o deyrnasoedd Gwent a Morgannwg. Heddiw, mae'n cynnwys siroedd Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Mynwy, Casnewydd, Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, a Chastell-nedd Port Talbot.
Er ei bod yn arfer defnyddio'r term 'De Cymru' am yr ardal hon, mewn termau daearyddol pur mae de-ddwyrain Cymru yn gywirach, gyda 'De Cymru' yn enw priodol am dde-orllewin Cymru ("Gorllewin Cymru") a'r de-ddwyrain gyda'i gilydd. Yn ôl y drefn honno, rhennir Cymru yn dri rhanbarth, sef y Gogledd, y Canolbarth a'r De.
Creuwyd y siroedd, bwrdeistrefi sirol a dinasoedd sirol presennol fel awdurdodau unedol yn 1996.
Dyma'r siroedd a greuwyd yn 1974. Ers 1996 maent yn 'siroedd cadwedig' yn unig.
Creuwyd y siroedd hyn dan y drefn Seisnig rhwng 1284 a 1536. Cawsont eu dileu neu eu hail-lunio yn 1974.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.