![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bb/Mobil_1_motor_oil.jpg/640px-Mobil_1_motor_oil.jpg&w=640&q=50)
Olew
From Wikipedia, the free encyclopedia
Hylif na ellir ei gymysgu â dŵr yw olew. Mae pris olew petroliwm yn effeithio ar economi gwledydd y byd.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bb/Mobil_1_motor_oil.jpg/640px-Mobil_1_motor_oil.jpg)
Ceir gwahanol fathau o olew, gan gynnwys:
- Olew ffosil sydd yn adnodd naturol ac a ddefnyddir fel ffynhonnell ynni neu wres, megis petroliwm, disel a paraffin. Fe'i ceir mewn creigiau.
- Olew organig sy'n cynnwys hanfod blodau neu blanhigion eraill megis blodau haul; mae'r gwyddonydd yn defnyddio'r term lipids am y rhain.
Ceir llawer o ddefnyddiau i olew, gan gynnwys:
- Olew cosmetig i wella ansawdd y croen
- Olew ar gyfer iro, a roddir i beiriant neu injan er mwyn iddi hi droi yn iawn, heb ffrithiant
- Paratoi bwyd, er enghraifft olew'r olewyddan (Saesneg: olive oil)
- Tanwydd ar gyfer cynesu adeiladau neu yrru cerbyd
- Paent-olew; defnyddir paent olew ers 15g
- Seremoniau crefyddol (i eneinio'r corff hefyd)
Y Gynghrair Arabaidd yw prif gynhyrchydd olew'r byd, gyda Sawdi Arabia yn ail, a Rwsia'n drydydd.