![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/73/Aerial_image_of_Portmeirion%252C_Gwynedd%252C_Wales_%2528Cymru%2529_-_pentref_Eidalaidd%252C_Rhagfyr_2022_35.jpg/640px-Aerial_image_of_Portmeirion%252C_Gwynedd%252C_Wales_%2528Cymru%2529_-_pentref_Eidalaidd%252C_Rhagfyr_2022_35.jpg&w=640&q=50)
Portmeirion
pentref yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng Ngwynedd, Cymru, yw Portmeirion ( ynganiad ). Lleolir ym Meirionnydd, a roes iddo'i enw, ynghyd â'r rhagddodiad "Port" i gyfleu naws Port arall, sef Portofino yn Yr Eidal. Saif ar benrhyn Aber Iâ ar lannau Afon Dwyryd, ger Bae Tremadog. Mae'r fynedfa iddo hanner ffordd rhwng Penrhyndeudraeth a Phorthmadog, ar yr A487.
![]() Portmeirion yn Rhagfyr 2022 | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Penrhyndeudraeth ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.9131°N 4.0992°W ![]() |
Cod OS | SH588370 ![]() |
Cod post | LL48 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | Clough Williams-Ellis ![]() |
Roedd y pentref yn arbrawf ac yn ymgais i greu datblygu cynaladwy sy'n gydnaws a'i amgylchfyd o ran tirwedd a diwylliant. Mae yna dai a siopau, bwytai a gwestai yn y pentref, rai ohonyn nhw'n adeiladau gwreiddiol ac eraill wedi eu cynllunio gan y pensaer a'r cadwriaethwr Syr Clough Williams-Ellis a'i codi ganddo. Prynodd Williams-Ellis y safle ym 1925 a'i agor fel gwesty dros y Pasg 1926. Ei fwriad oedd dangos ei bod yn bosibl datblygu lle hardd heb ei ddinistrio, ac y gellid, o arddel disgyblaeth lem, ychwanegu at yr harddwch naturiol. Ar dir y gwesty gellir ymweld ag adfeilion Castell Deudraeth, a godwyd gan feibion Cynan ab Owain Gwynedd tua chanol y 12g.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b9/Portmeirion_-_geograph.org.uk_-_43293.jpg/320px-Portmeirion_-_geograph.org.uk_-_43293.jpg)
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]