![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/78/Bangor_Cathedral_from_Bangor_Mountain.jpg/640px-Bangor_Cathedral_from_Bangor_Mountain.jpg&w=640&q=50)
Esgob Bangor
mae Esgob Bangor yn gyfrifol am Esgobaeth Bangor, sy'n cynnwys Môn, y rhan fwyaf o Wynedd a darn bach o Bowys. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Esgob Bangor yn gyfrifol am Esgobaeth Bangor, sy'n cynnwys Môn, y rhan fwyaf o Wynedd a darn bach o Bowys. Mae'r Eglwys Gadeiriol ym Mangor, a phreswylfa swyddogol yr esgob yw Tŷ'r Esgob ym Mangor.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/78/Bangor_Cathedral_from_Bangor_Mountain.jpg/640px-Bangor_Cathedral_from_Bangor_Mountain.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f4/Coat_of_Arms_of_the_Diocese_of_Bangor.svg/320px-Coat_of_Arms_of_the_Diocese_of_Bangor.svg.png)
Sefydlwyd esgobaeth yn hen Deyrnas Gwynedd gan Deiniol Sant tua'r flwyddyn 546. Yn ddiweddarach daeth yr esgobaeth dan reolaeth Archesgob Caergaint, a bu cryn dipyn o ddadlau rhwng yr Archesgob a Thywysogion Gwynedd ynghylch penodi esgob, yn enwedig yn ystod teyrnasiad Gruffudd ap Cynan ac Owain Gwynedd. Yn dilyn marwolaeth y Gwir Barchedig Anthony Crockett, yr 80fed esgob, etholwyd Andrew John i'r swydd ym mis Hydref 2008.