Rhestr Wikidata From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyma restr o seintiau Cymru. Mae gan bob sant neu santes a restrir yma gysylltiad cryf â Chymru gydag un eglwys o leiaf yno wedi'i chysegru iddo/iddi.
Yn ôl un ffynhonnell cynnar: Nyd oes wlad yn holl Gred o gymaint o dir a chymaint o saint ynddei ag oedd gynt ymhlith Cymbry.[1]
Cafodd dros 90 o fenywod eu cydnabod yn seintiau, ac yn eu plith y mae Elen, 24 o ferched Brychan Brycheiniog, gan gynnwys: Arianwen, Rhiangar, Gwladys, Gwrgon, Nefydd, Lleian, Marchell, Meleri, Nefyn, Tutglid, Belyau, Ceinwen, Cynheiddon, Ceindrych, Clydai, Dwynwen, Eiluned, Goleudydd, Gwawr, Gwen, Ilud, Tybïe, Tudful, a Tangwystl.
Ni restrir seintiau sy'n gyffredin i draddodiad Cristnogol Ewrop, sydd gan amlaf yn gymeriadau Beiblaidd, er bod gan rai ohonyn nhw sawl eglwys wedi'i chysegru yn ei enw yng Nghymru, e.e. Sant Mihangel a'r Santes Fair. Dylanwad y Sistersiaid oedd yn bennaf cyfrifol am newid enw eglwys o'r enw'r santes leol i'r enw Mair a dylanwad y Normaniaid sy'n cyfrifol am newid enw i Fihangel.[2]
Mae'r Cognatio de Brychan 11g yn rhestru ei 24 o ferched a 11 o feibion. Mae dogfennau diweddarach yn ychwanegu enwau ond fel arfer mae yna cyfeiriad atynt fel mab neu ferch rhywun arall hefyd a dylid dehongli y geiriau "merch Brychan" i golygu disgynnydd benywaidd Brychan - wyres neu or-wyres. Mae Bonedd y Saint yn draethodyn achyddol yn manylu yr achau seintiau Brythoneg gynnar. Mae'n amrhyw llawysgrifau wahanol hefyd ar gael yn dyddio o'r 13g i'r 17g, er bod y deunydd â gwreiddiau hen iawn.
Mae'r rhestr hon yn anghyflawn ac mae croeso i chwi ychwanegu ati.
Rhestr Wicidata:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.