From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd y Brythoniaid (neu'r Brutaniaid a hefyd Brython fel enw unigol lluosog) yn bobl a'r oedd yn byw yn ynys Prydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban cyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o deyrnasoedd annibynnol mawr a bach yn seiliedig ar batrymau llwythol. Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y Brythoniaid – maen' nhw'n defnyddio termau fel "Celtiaid" neu "Brythoniaid Rhufeinig" gan amlaf.
Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn 410 OC roedd Lladin, iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar y Frythoneg ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythur. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd – ysgrifau am hanes a dirywiad tybiedig y genedl gan y mynach Gildas, canu Taliesin ac Aneirin yn cael eu traddodi ar lafar, a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig ac ar feini – yn arwain at gychwyn llenyddiaeth Gymraeg.
Yn llenyddiaeth gynnar Cymru, defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid/Brutaniaid) ochr yn ochr.
Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'u perthynas â'r Llydäwyr yn Llydaw (fel y tyst yr enw Breton) a'r Cernywiaid yng Nghernyw, ynghyd â'u cyd-Frythoniaid yn yr Hen Ogledd. Dros y môr i Lydaw aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedl Macsen Wledig a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd yn Lloegr – a dyma le ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar.
Ulaid Dumnonia Lindsey
Allwedd: |
Bu mewnfudiad Celtaidd i dde Prydain tua 1000-875 CC a all fod yn gyfrifol yn lledaeniad ieithoedd Celtaidd cynnar yn y cyfnod.[1] Yn 55 a 54 CC, glaniodd Iŵl Cesar ym Mhrydain a theithiodd drwy'r de-ddwyrain yn unig. Gwelodd debygiaethau rhwng Celtiaid Prydain a Cheltiaid Gâl ond roedd rhai pethau yn unigryw am y Celtiaid Brythonaidd gan gynnwys peintio'i hunain gyda glaslys a'u defnydd parhaol o'r cerbyd (chariot) mewn rhyfel.[2]
Dechreuodd goresgyniad y Rhufeiniaid tua 90 mlynedd yn ddiweddarach yn 43 OC, ac anfonwyd byddin o 40,000 i Brydain yn 48 OC.[3] Rhoddir darlun gwahanol o'r Brythoniaid yn y cyfnod hwn gan yr ymerawdwr Claudius. Daeth y Rhufeiniaid i adnabod y llwythau Prydain yn ehangach a disgrifir rheolaeth mwy canolog ohonynt gan gynnwys brenhinoedd. Awgrymir yr awdur Barri Jones mai conffederasiwn o lwythau Celtaidd a fodolodd yng Nghymru rhwng y Cornoficiaid, y Demetiaid, yr Ordoficiaid a'r Silwriaid.[2] Mae'n bosib yr ysgogwyd Rhufain i oresgyn Cymru er mwyn sicrhau cyfoeth ei chyfoeth mwynol.[4]
Ar ôl gwrthwynebu'r Rhufeiniaid fel arweinydd y Catuvellauni, ffodd Caradog i'r gorllewin lle arweiniodd y Silwriaid a'r Ordoficiad yn erbyn y Rhufeiniaid. Daliwyd Caradog a chymerwyd ef i Rufain yn 51 OC.[5][6] Daliwyd Ynys Môn, cadarnle Derwyddon yr Ordoficiaid yn 61 OC a thorrwyd coed derw'r derwyddon. Gadawodd y gatrawd Rufeinig i ymladd yn erbyn Buddug (Boudica) ond fe oresgynnwyd yr ynys eto yn 78 OC. Parhaodd y Silwriaid i ymladd gyda thactegau guerilla tan yr un cyfnod, 74-78 OC. Ar ei hanterth tua 70 OC roedd tua 30,00 o filwyr Rhufeinig yng Nghymru, ond roeddent yn cynnwys llwythau Nervii, Vettones a'r Astwriaid.[3] Ni orchfygwyd Prydain yn drylwyr tan 84 OC.[7]
Erbyn 120 OC creodd y Silwriaid Senedd Lwythol yng Nghaer-went fel canolbwynt "civitas", gwladwriaeth ddinesig a ddefnyddiodd system ariannol Rufeinig. Fe ddaeth Caerfyrddin yn ganolbwynt i'r Demetae ond fe barhaodd i'r Ordoficiad wrthwynebu'r Rhufeiniaid yn y 3g a'r 4g ac mae eu tiroedd yn wag ar fapiau Rhufeinig, er gwaethaf presenoldeb milwyr.[3] Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer lleng Caerllion a safle milwrol a ddatblygwyd fel tref Rufeinig yng Nghaerfyrddin.[8]
Dywed Gwyn Alf Williams y ganwyd Cymru yn 383 pan adawodd Macsen Gymru sy'n ymddangos yn y gân Yma o Hyd; ond mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn anghytuno â hyn. Erbyn 393, dad-filwriwyd Cymru oherwydd roedd angen mwy o filwyr gan y Rhufeiniaid yn Gâl ac erbyn 410 gadawodd y catrodau Rhufeinig gan adael dim ond tasgfeistri ar ôl i "fflangellu ysgwyddau'r brodorion" yn ôl Gildas. Erbyn 400 cymysgwyd llawer o Ladin gyda'r Frythoneg ac fe gyfunwyd y traddodiadau a diwylliant Celtaidd gyda rhai Rhufeinig.[3]
Derwyddiaeth oedd crefydd y Brythoniaid ond tystiodd awduron y cyfnod bod eglwysi Cristnogol ymysg y Celtiaid erbyn 169 OC; fod Brythoniaid wedi dod yn Gristnogion erbyn 208 ac yn 314 OC roedd tri esgob o Frythoniaid yng Nghyngor Arles.[9] Sefydlwyd Eglwys annibynnol Gymreig/Brythonaidd cyn Eglwys Rufain ac Eglwys Loegr ac fe barhaodd i fod yn hollol annibynnol yn y cyfnod hwn.[10]
Yn 440 OC dywed i Sant Padrig sefydlu eglwys yn Llanbadrig yn Ynys Môn ac yn 470 eglwys lle sefir Eglwys Tyddewi heddiw.[11][12] Dywed Nennius i'r Brenin Arthur cael ei arwisgo ag arwyddlun brenhinol gan Dyfrig, esgob Llandaf yng Nghaerllion yn 517 OC cyn arwain y Brythoniaid i ryfel yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid. Claddwyd ef yn Ynys Wydrin, Glastonbury, dan reolaeth y Brythoniaid ar y pryd.[13] Yn ôl Rhygyfarch ap Sulien, gwnaed Dewi Sant yn Archesgob metropolitan Prydain a'r Brythoniaid yn Synod Brefi (Llanddewi Brefi).[14]
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) | |
Dechreuodd y cyfnod Eingl-Sacsonaidd ym Mhrydain tua'r 5g, ac ar yr un pryd ffurfiwyd teyrnasoedd yng Nghymru megis Powys, Ystrad Tywi, Gwent, Dyfed, Gwynedd, Morgannwg, Ceredigion, a Brycheiniog. Yn y 5g symudodd Cunedda o Foryd Forth i Wynedd a gyrru setlwyr Gwyddelig o Ben Llŷn.[15]
Gellir cysylltu'r teyrnasoedd Cymreig gyda thiroedd y llwythau a barhaodd trwy gydol y cyfnod Rhufeinig; Gwynedd gyda'r Ordoficiaid; Powys gyda'r Cornoficiaid; Gwent a Glywysing gyda'r Silwriaid; a Dyfed a Deheubarth gyda'r Demetiaid. Ar ôl i Cunedda fudo i lawr o deyrnas Gododdin, cysylltwyd ei fab Ceredig gyda'r deyrnas Ceredigion a'i fab Meirion gyda Meirionydd. Dywed mae un o deyrn cynnar Glywysing (a ranodd yn hwyrach i Morgannwg, Gwynllyw a Gwent) oedd Emrys Wledig ac mai Gwrtheyrn a sefydlodd Gwerthrynion (Rhwng Gwy a Hafren).[16]
Gwahanwyd y Cymry a'r Cernywiaid ar ôl brwydr ger Dyrham yn 577 OC. Curwyd Rheged a Manaw Gododdin yn yr Yr Hen Ogledd.[15] Dywed i Frwydr Caer yn 616 OC dorri'r cysylltiad tir rhwng Brythoniaid yr Hen Ogledd (Cumbria a gogledd ddwyrain Lloegr) a Chymru.[17] Llwyddodd teyrnas Ystrad Clud i amddiffyn ei hannibyniaeth tan yr 11g hwyr. Yn y cyfnod hwn, roedd y bardd Aneirin yn byw ym mhrifddinas teyrnas Manaw Gododdin sef Din Eidyn (Caeredin). Ysgrifennodd y gerdd enwog, y Gododdin, yn sôn am lwyth y Gododdin yn yr Hen Ogledd yn brwydro yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid yn y 590au:[15]
“ | Gwyr a aeth Gatraeth oedd fraeth eu llu
Glasfeydd eu hancwyn a gwenwyn fu Trichant mewn peiriant yn catau Ac wedi elwch tawelwch fu... |
” |
Fe lwyddodd Powys i amddiffyn ei thiroedd rhag teyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia ac fe godwyd Croes Eliseg gan Cyngen ap Cadell i goffáu ymdrechion Elisedd ap Gwylog (ei daid), "Yr Eliseg hwnnw a gasglodd ynghyd etifeddiaeth Powys . . . allan o afael yr Eingl â'i gleddyf ac â thân". Yn yr 8g, fe gododd Aethelbald, brenin Mersia, Glawdd Wat ac yna cododd ei olynydd Offa, Glawdd Offa i gadw Brythoniaid Powys allan.[15]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.