Claudius

gwleidydd, hanesydd, Augur, ysgrifennwr (10 CC-OC 54) From Wikipedia, the free encyclopedia

Claudius

Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus neu Claudius (1 Awst 10 CC13 Hydref 54) oedd pedwerydd Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Tiberius Claudius Drusus Nero Germanicus. Bu'n ymeradwr o 24 Ionawr 41 hyd ei farwolaeth.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Claudius
GanwydTiberius Claudius Drusus 
1 Awst 10 CC 
Lugdunum 
Bu farw13 Hydref 0054 
o gwenwyniad 
Rhufain 
DinasyddiaethRhufain hynafol 
Galwedigaethgwleidydd, hanesydd, Augur, llenor 
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Censor, Conswl Rhufeinig 
Adnabyddus amDe vita sua 
TadNero Claudius Drusus 
MamAntonia Minor 
PriodPlautia Urgulanilla, Aelia Paetina, Messalina, Agrippina Yr Ieuengaf 
PartnerCalpurnia, Cleopatra, Livia Medullina, Aemilia Lepida 
PlantTiberius Claudius Drusus, Claudia Julia, Claudia Antonia, Claudia Octavia, Britannicus, Nero 
PerthnasauNero 
LlinachJulio-Claudian dynasty, Claudii Nerones 
Cau

Ganed ef yn Lugdunum (dinas Lyon yn Ffrainc heddiw), yn fab i Drusus ac Antonia Minor. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf i gael ei eni tu allan i'r Eidal.

Mae'n ymddangos fod Claudius yn dioddef o ryw fath o anabledd, ac o'r herwydd nid oedd ei deulu'n awyddus iddo gael gyrfa gyhoeddus. Pan fu farw Augustus yn 14 gofynnodd Claudius i'r ymerawdwr newydd, Tiberius am gael dechrau gyrfa gyhoeddus, ond ni chaniatawyd iddo. Cafodd fwy o amlygrwydd pan ddaeth Caligula yn ymerawdwr ar ôl marw Tiberius, ond dywedir fod Caligula yn hoffi cael hwyl am ei ben. Ar 24 Ionawr 41, llofruddiwyd Caligula. Aeth Claudius i ymguddio, ond darganfuwyd ef gan rai o'r milwyr a'i gyhoeddi'n ymerawdwr.

Ymestynnodd Claudius ffiniau'r ymerodraeth yn sylweddol, gan ychwanegu Thrace, Mauretania, Noricum, Pamphylia, Lycia a and Iudaea yn ogystal â choncro Prydain. Yn 43, gyrrodd Claudius Aulus Plautius gyda pedair lleng i Brydain i'w hychwanegu at yr ymerodraeth.

Bu farw Claudius ar 13 Hydref 54. Credir iddo gael ei wenwyno, a bod gan ei wraig Agrippina ran yn y cynllwyn. Dilynwyd ef gan Nero, mab Agrippina o briodas flaenorol.

Rhagflaenydd:
Caligula
Ymerawdwr Rhufain
25/26 Ionawr 41 OC13 Hydref 54 OC
Olynydd:
Nero
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.