Nero Claudius Drusus

gwleidydd, person milwrol (38–9 CC) From Wikipedia, the free encyclopedia

Nero Claudius Drusus

Cadfridog Rhufeinig oedd Nero Claudius Drusus Germanicus, ganed Decimus Claudius Drusus ac a elwir fel rheol yn Drusus, neu Drusus yr Hynaf (14 Ionawr 38 CC - 9 CC). Ef oedd mab ieuengaf Livia, yn ddiweddarach yn wraig yr ymerawdwr Augustus, a'i gŵr cyntaf, Tiberius Claudius Nero.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Nero Claudius Drusus
GanwydDecimus Claudius Drusus 
14 Ionawr 38 CC 
Rhufain 
Bu farw14 Medi 9 CC 
Germania 
DinasyddiaethRhufain hynafol 
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol 
SwyddPraetor, quaestor, Conswl Rhufeinig 
TadTiberius Claudius Nero 
MamLivia 
PriodAntonia Minor 
PlantGermanicus, Livilla, Claudius 
LlinachJulio-Claudian dynasty, Claudii Nerones 
Cau

Ganed ef ychydig cyn i Livia ysgaru Tiberius Claudius Nero er mwyn priodi Augustus. Magwyd ef yn nhŷ Claudius Nero gyda'i frawd Tiberius, a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach.

Priododd Antonia Minor, merch Marcus Antonius a chwaer Augustus, Octavia Minor. Roedd y briodas yn un nodedig o glos, ac wedi marw Drusus bu Antonia yn weddw am bron hanner canrif hen ail-briodi. Cawsant bump o blant; bu dau farw yn ieuanc. Y tri arall oedd Germanicus, Livilla a Claudius, a ddaeth yn ymerawdwr.

Bu'n ymladd yn yr Alpau, cyn cael ei benodi'n llywodraethwr Gâl yn 13 CC. Pan ymosododd llwyth Almaenig ar ei dalaith, gwrth-ymosododd Drusus tu hwnt i Afon Rhein, gan orfodi'r Ffrisiaid i dalu teyrnged flynyddol. Parhaodd i ymgyrchu yn yr Almaen dros y blynyddoedd nesaf, gan ennill buddugoliaethau dros y Chatti a'r Sicambri.

Bu farw yn 9 CC o ganlyniad i ddisgyn oddi ar ei geffyl, er iddo fyw am fis ar ôl y ddamwain. Ysgrifennodd yr ymerawdwr Augustus fywgraffiad iddo, ond nid yw wedi goroesi.

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.