From Wikipedia, the free encyclopedia
Pobloedd hynafol a drigai yng ngogledd yr Alban oedd y Pictiaid. Mae tarddiad yr enw arnynt yn ansicr. Mae'r gair Lladin Picti (yn llythrennol ‘pobl paentiedig’) yn cyfeirio at eu harfer o liwio a thatwio eu cyrff. Cyffelyb eu hystyr yw'r enwau ar eu gwlad yn Gymraeg - Prydyn - a Gwyddeleg, Cruithin. Mae'n bosibl hefyd fod cysylltiad ag enw Galeg llwyth Galaidd y Pictavi (neu'r Pictones). Picteg oedd iaith y Pictiaid ac mae ei pherthynas â'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd a Cheltaidd yn ansicr. Un hen enw ar eu gwlad oedd Pictavia. Ymddengys mai pobl gyn-Geltaidd oeddyn nhw yn wreiddiol. Yr enw Cymraeg Canol arnyn nhw oedd Brithwyr (13g) neu Ffichti(aid) (14g), yn arbennig yn y Brutiau a'r Canu Darogan. Mewn un o Drioedd Ynys Prydain mae'r Pictiaid yn un o ‘Dair Gormes a ddaeth i'r ynys hon ac nid aeth yr un drachefn’, ynghyd â'r Coraniaid a'r Saeson (Rachel Bromwich, gol., Trioedd Ynys Prydein, triawd 36).
Enghraifft o'r canlynol | llwyth |
---|---|
Math | Y Celtiaid |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir y cyfeiriadau hanesyddol cynharaf at y Pictiaid gyda'r Scotti yn y 3g pan ymosodasant ar diriogaeth Rufeinig yn ardal Mur Hadrian. Creuwyd teyrnas ganddyn nhw i'r gogledd o Foryd Forth. Ar adegau roedden nhw'n brwydro yn erbyn Manaw Gododdin ac Ystrad Clud, y ddwy deyrnas mwyaf gogleddol yn yr Hen Ogledd, ond ar adegau eraill roedd perthynas da rhyngddyn nhw a Gwŷr y Gogledd. Yn y 6g aeth Sant Columba i genhadu iddyn nhw, gyda chaniatad eu brenin. Unwyd teyrnasoedd y Pictiaid a'r Scotti gan Kenneth mac Alpin tua 850 i greu teyrnas yr Alban.
Mae hanes cynnar gwlad y Picitiaid yn aneglur, fel y gwelir. Yn ddiweddarach ceir tystiolaeth fod sawl brenin yn rheoli teyrnasoedd annibynnol a bod un neu ragor ohonyn nhw wedi llwyddo ar adegau i fod yn fath o uchel-frenhinoedd ar y lleill. Mae'n bosibl dadlau dros fodolaeth saith teyrnas ymhlith y Pictiaid, gan ddilyn tystiolaeth archaeolegol a'r cyfeiriadau yn y testun De Situ Albanie, y "Cronicl Pictaidd" Duan Albanach, a chwedlau Gwyddeleg. Dyma nhw:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.