From Wikipedia, the free encyclopedia
Ymgyrchoedd milwrol gan luoedd answyddogol o fewn tiroedd a feddiennir gan elyn yw rhyfela herwfilwrol neu ryfela gerila, gan amlaf gan grwpiau sydd yn frodorol i'r diriogaeth honno.
Mae prif gyfranwyr i theorïau modern rhyfela herwfilwrol yn cynnwys Mao Zedong, Abd el-Krim, T. E. Lawrence, Vo Nguyen Giap, Josip Broz Tito, Michael Collins,[1] Tom Barry, Che Guevara, Charles de Gaulle, a Carlos Marighella.
Oherwydd diffyg digon o gryfder ac arfau i wrthwynebu byddin reolaidd, mae herwfilwyr yn osgoi brwydrau ar y maes a hynny drwy ddefnyddio'r dacteg hwn, sef hit-and-run. Yn hytrach na wynebu'r gelyn wyneb yn wyneb, maent yn gweithredu o ganolfannau a sefydlir ar dir anghysbell ac anhygyrch, megis coedwigoedd, mynyddoedd, a jyngloedd, ac yn dibynnu ar gefnogaeth y trigolion lleol ar gyfer recriwtio, bwyd, lloches, a gwybodaeth. Yn y gorffennol defnyddiwyd tactegau herwfilwrol gan Owain Glyn Dŵr a thywysogion Cymreig eraill. Gall herwfilwyr hefyd derbyn cymorth ar ffurf arfau, meddygaeth, ac ymgynghorwyr milwrol gan fyddin eu hunain neu fyddinoedd cynghreiriol.
Maes tactegau'r herwfilwyr yw aflonyddwch: maent yn ymosod yn gyflym ac yn annisgwyl, ysbeilio storfeydd y gelyn, cudd-ymosod ar batrolau a chymdeithiau cyflenwi, a thorri llinellau cyfathrebu, wrth obeithio aflonyddu gweithgarwch y gelyn ac i gipio cyfarpar a chyflenwadau ar gyfer defnydd eu hunain. Mae herwfilwyr yn anodd i ddal oherwydd eu mudoledd, gwasgariad eu lluoedd i mewn i grwpiau bychain, a'u gallu nhw i ddiflannu o fewn y boblogaeth sifil.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.