sant Cymreig o'r 6g From Wikipedia, the free encyclopedia
Sant o Gymro oedd Fflewyn (fl. 6g). Ef yw sefydlwr traoddiadol a nawddsant eglwys Llanfflewyn, ym mhlwyf Llanrhuddlad ar Ynys Môn.
Fflewyn | |
---|---|
Ganwyd | Gwynedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Blodeuodd | 6 g |
Cysylltir gyda | Llanfflewyn, Hendy-gwyn |
Tad | Ithel Hael |
Plant | Tanwg, Gredifael |
Ychydig iawn a wyddys am y sant ei hun. Dywed traddodiad ei fod yn fab i Ithel Hael (Ithael Hael). Ceir dwy achrestr o blant Ithel. Yn y gyntaf cyfeirir at y seintiau Tanwg a Gredifael (a Fflewyn) fel plant iddo. Cysylltir yr rhain â Gwynedd. Mae'r achrestr arall yn ei wneud yn frawd i'r seintiau Tecwyn, Tegai, Trillo, Twrog, Llechid, a Baglan.[1]
Dywedir fod Fflewyn yn un o oruchwylwyr clas enwog Hendy Gwyn ar Dâf, gyda'i frawd Gredifael.[1]
Dethlir gwylmabsant Fflewyn ar 11 Rhagfyr (neu'r 12fed).[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.