tref yn Sir Fynwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref farchnad a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw'r Fenni[1][2] (Saesneg: Abergavenny). Saif tua 15 milltir (24 km) i'r gorllewin o Drefynwy ar yr A40 ac ar yr A465, a thua 6 milltir (10 km) i'r de orllewin o'r ffin â Swydd Henffordd, a Lloegr. O'i wreiddiau yn gaer Rhufeinig, deuai'n dref gaerog ganol-oesol o fewn Y Mers. Mae gan y dref adfeilion castell carreg a adeiladwyd yn sgil dyfodiad y Normaniaid.
Math | tref farchnad, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 10,078, 10,766 |
Gefeilldref/i | Östringen, Sarno, Canton Beaupréau |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,032.5 ha |
Gerllaw | Afon Wysg |
Cyfesurynnau | 51.8331°N 3.0172°W |
Cod SYG | W04000775 |
Cod OS | SO295145 |
Cod post | NP7 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
Hysbysebir y dref fel "Porth i Gymru" (Gateway to Wales). Fel yr awgrymir gan yr enw Saesneg, lleolir y Fenni ar aber afon Gafenni ar afon Wysg. Amgylchynir y dref gan ddau fynydd, sef Blorens (559m) a Pen-y-Fâl (596m), a phum bryn: Ysgyryd Fawr, Ysgryd Fach, Deri, Rholben a Mynydd Llanwenarth.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]
Roedd Gobannium yn gaer Rufeinig a oedd yn amddiffyn y ffordd ar hyd dyffryn Wysg a oedd yn cysylltu Burrium (Brynbuga) ac Isca Augusta (Caerllion) yn y de â Cicucium (Y Gaer) a'r canolbarth. Adeiladwyd hefyd er mwyn trechu'r Silwriaid brodorol. Cafwyd hyd i adfeilion y gaer hon yn y 1960au pan adeiladwyd y swyddfa bost newydd.
Daw'r enw "Y Fenni" o'r hen enw "Abergafenni". Enwyd afon Gafenni ar ôl y gaer Rufeinig "Gobannium", a enwyd ar ôl yr hen dduw Celtaidd "Gobannos". Mae hwnnw'n gyfarwydd i ni heddiw fel Gofannon fab Dôn yn Culhwch ac Olwen. Mae ei enw'n gytras â'r gair 'gof', yn awgrymu cysylltiadau hynafol rhwng gofaint ag ardal y Fenni.
Tyfai'r Fenni'n dref o dan reolaeth Arglwyddi'r Fenni. Hamelin de Balun, o Ballon, Maine-Anjou, ger Le Mans, Ffrainc, oedd y barwn cyntaf. Sefydlodd abaty Benedictaidd yn y 11g, lle saif Eglwys y Santes Fair erbyn hyn. Derbyniai'r eglwys honno degwm gan y castell a chan y dref. Ceir cerfluniau diddorol yno.
Oherwydd ei lleoliad ar y ffin gwelai'r dref sawl rhyfel yn ystod y 12fed a'r 13g. Ym 1175, lladdwyd holl benaethiaid Cymreig yr ardal gan Wilym Brewys, tad y Gwilym Brewyd a geid yn hanes Siwan gan Saunders Lewis. Gwahoddodd Gwilym y penaethiaid lleol i'w gastell am wledd ddydd Nadolig. Rhoes y Cymry ei arfau iddo er mwyn dod i mewn i'r castell, ond yn lle datrys y problemau a oedd ganddynt, fe'u bradychwyd gan Wilym a'u lladd. Mae Gerallt Gymro yn adrodd i'r Cymry gipio'r castell o Frewys ym 1182.
Ymosododd Owain Glyndŵr â'r dref ym 1404. Yn ôl yr hanes, daeth gwŷr Glyn Dŵr i mewn i'r dref â chymorth Cymraes leol a adawodd iddynt ddod i mewn drwy borth ar Stryd y Farchnad liw nos. Agorodd y drws a daeth y fyddin i mewn yn llosgi'r dref, ond yn gadael y castell i fod. Gelwir Stryd y Farchnad "Traitors' Lane" hyd heddiw.
Sefydlwyd Ysgol y Brenin Harri VIII ym 1542.
Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr daeth y Brenin Siarl I i'r Fenni er mwyn cymryd rhan yn achos llys Syr Trefor Williams, a seneddwyr eraill.
Sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni ar 2 Tachwedd 1833, yn y Sun Inn yn Y Fenni, ac yn y dref cynaliwyd Eisteddfodau'r Fenni o 1834 i 1854.
Carcharwyd Rudolph Hess yng Nghwrt Maindiff yn ystod yr ail Ryfel Byd, ar ôl iddo hedfan i'r Alban.
Cynhelir marchnad wartheg yn y Fenni ar y safle bresennol ers 1863. Rhwng 1825 a 1863 cynhelid marchnad ddefaid ar Stryd y Castell, er mwyn atal y preswylwyr rhag gwerthu eu defaid ar hyd strydoedd y dref. Mae'r farchnad yn cael ei rheoli heddiw gan Abergavenny Market Auctioneers Ltd., sydd yn cynnal arwerthiannau rheolaidd yno. Gwerthir defaid a phorthiant ar ddydd Mawrth, ac weithiau gwerthir gwartheg ar ddydd Gwener.
Wrth i farchnad wartheg Casnewydd gau, cynhelir y farchnad honno yn y Fenni bob dydd Mercher.
Ceir amryw farchnadoedd yn y neuadd farchnad.
Ceir yma nifer o eglwysi: Eglwys y Santes Fair yw prif eglwys y dref, ac mae'n un o'r eglwysi mwyaf yng Nghymru. Ceir dwy eglwys a gysegrwyd i Sant Teilo gerllaw: y cyntaf yn Llandeilo Bertholau a'r ail yn Llandeilo Gresynni. Mae tŵr cam eglwys Cwm-iou yn nodedig, ychydig filltiroedd o Aberhonddu; gerllaw, saif Priordy Llanddewi Nant Hodni, priordy Awstinaidd ger pentref Llanddewi Nant Hodni yng nghymuned Crucornau.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Y Fenni (pob oed) (10,078) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Fenni) (948) | 9.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Fenni) (6946) | 68.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Fenni) (1,997) | 43.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.