pentref a chymuned yn Sir Fynwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llanfihangel Troddi[1] (Saesneg: Mitchel Troy).[2] Saif ger afon Troddi, dair milltir i'r de-orllewin o Drefynwy, heb fod ymhell o'r briffordd A40. Mae'r gymuned a'r plwyf yn cynnwys pentref Cwmcarfan.
Yr olygfa i'r gogledd-orllewin, tuag at "Troy House" a thu hwnt. | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,414 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7891°N 2.7365°W |
Cod SYG | W04001075 |
Cod OS | SO493103 |
Cod post | NP25 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
Mae Troy House, tua milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, yn dyddio o tua 1680, ar safle adeilad cynharach.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]
Daw'r enw o Afon Troddi, sy'n llifo trwy'r pentref; yn 1148 yr enw oedd 'Troi', talfyriad o 'Troddi'[5]. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Mihangel; mae'n dyddio o'r 13g, 1208 yn ôl arysgrif ynddi. Roedd Adda o Frynbuga yn rheithor o 1382 hyd 1385. Ceir heneb yn dyddio'n ôl i sefydlu'r eglwys yma, sef Croes Llanfihangel Troddi.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanfihangel Troddi (pob oed) (1,253) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel Troddi) (108) | 8.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel Troddi) (624) | 49.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanfihangel Troddi) (143) | 28.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.