pentref a chymuned yn Sir Fynwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Porth Sgiwed neu Porthsgiwed;[1][2] hefyd Porth Ysgewin neu Porthysgewin (Saesneg: Portskewett). Enw person yw Ysgewin, sef tarddiad y gair; yr un gair ag ysgawen, mae'n debyg. Saif i'r de-orllewin o dref Cas-gwent. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,041.
Eglwys y Santes Fair, Porth Sgiwed | |
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 2,476 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.59°N 2.73°W |
Cod SYG | W04001077 |
Cod OS | ST499881 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
Ceir pen gollewinol Twnnel Hafren yn y gymuned yma. Uchben, mae Ail Groesfan Hafren yn cario'r draffordd M4. Ymhlith ei hynafiaethau mae bryngaer o Oes yr Haearn ac olion fila Rufeinig a theml Rufeinig. Ceir yma wrthgloddiau diweddarach hefyd, a godwyd, yn ôl traddodiad, gan Harold Godwinson wedi iddo oresgyn y rhan yma o Gymru ar ôl gorchfygu Gruffudd ap Llywelyn. Dywedir i Harold godi adeilad yma ar gyfer hela, ond i Caradog ap Gruffudd, brenin Gwent, ei ddinistrio yn 1065.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]
Yn ôl traddodiad, roedd prif lys Caradog Freichfras, brenin Gwent, yma yn y 6g. Crybwyllir y lle yn y gerdd Moliant Cadwallon o'r 7g fel "Porth Esgewin". Fe'i cofnodir yn Llyfr Dydd y Farn (1086).[5] Yn ôl Gerallt Gymro, roedd Cymru yn ymestyn o Borth Wygyr, yng ngogledd Ynys Môn, i Borth Ysgewin.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Porth Sgiwed (pob oed) (2,133) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Porth Sgiwed) (220) | 10.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Porth Sgiwed) (1395) | 65.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Porth Sgiwed) (293) | 33.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.