Llaneurgain
pentref yn Sir y Fflint From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Llaneurgain ( ynganiad ) (Saesneg: Northop). Fe'i lleolir hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug a'r Fflint, ar groesffordd 33 ar yr A55, tua 12 milltir i'r gorllewin o ddinas Caer. Yng Nghyfrifiad 2001 roedd gan y pentref boblogaeth o 2,983,[1] ac erbyn 2011 roedd yma 3,049.[2]
![]() | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 3,059 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2046°N 3.1303°W |
Cod SYG | W04000202 |
Cod OS | SJ246681 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
![]() | |
Mae ganddo boblogaeth o tua 3000. Ceir dwy dafarn, clwb criced a chlwb golff ynddo. Yng nghanol y pentref saif eglwys Sant Eurgain a Sant Pedr, gyda'i chlochdy'n codi 98 troedfedd uwchben y pentref. Ceir ynddo yn ogystal Goleg Garddwriaeth, sydd bellach yn cael ei reoli gan Brifysgol Glyndŵr a Choleg Cambria.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]
Yr eglwys
Yn ôl traddodiad sefydlwyd 'Eglwys Santes Eurgain' yn y 6g; newidiwyd ei henw'n ddiweddarach i Eglwys y Santes Eurgain a Sant Paul. Dywedir fod Eurgain, nith Sant Asaph, wedi ei sefydlu ar ben twmpath cynhanesyddol, lle y saif hyd heddiw. Ceir cofnodion o'r 12g am y gwaith o godi'r eglwys, gyda'r clochdy'n cael ei ychwanegu yn 1571. Cafodd yr adeilad presennol ei atgyweirio'n sylweddol yn 1840 ac eto yn 1877. Mae'r eglwys yn sedd i blwyf Llaneurgain o hyd, sy'n cynnwys Llaneurgain ei hun, Neuadd Llaneurgain, Sychdyn, Helygain, Rhosesmor, a Mynydd y Fflint. Yn y gorffennol roedd yn cynnwys Cei Connah hefyd.
- I gyfeiriad cefn yr eglwys
- Ffenest liw
- Beddrod Lleucu, gwraig Ithel ap Bleddyn o'r 14g
- Ceir 4 beddrod ym mur y gogledd
- Beddrod merch, Lleucu Llwyd, yn ôl rhai.
Yn y fynwent ceir hen adeilad ysgol ramadeg Llaneurgain, a godwyd yn y 16g.
Cofrestrwyd yr eglwys berpendicwla hon yn adeilad Gradd I yn Nhachwedd 1962 oherwydd ei dŵr, tŵr tebyg i dyrau Wrecsam a Gresffordd a rhannau o'r Oesoedd Canol.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llaneurgain (pob oed) (3,049) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llaneurgain) (503) | 17.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llaneurgain) (1562) | 51.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llaneurgain) (386) | 30.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Pobl o Laneurgain
- William Parry: Cynllwynwr Catholig (m. 2 Mawrth 1585)
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.