Yr Wyddgrug

tref a chymuned yn Sir y Fflint From Wikipedia, the free encyclopedia

Yr Wyddgrug

Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw'r Wyddgrug. Mae hi'n gorwedd ar groesffordd hanner ffordd rhwng Rhuthun i'r gorllewin a Chaer i'r dwyrain. Mae'r A494 yn pasio'r dref i'r dwyrain. Tu ôl i'r Wyddgrug mae'r tir yn codi i lethrau coediog Bryniau Clwyd. Cynhelir marchnad lwyddiannus ynghanol y dref bob dydd Mercher, ac mae'r Stryd Fawr yn ffynnu. Mae llwyfan awyr-agored ynghanol y dref, a chynhelir digwyddiadau cerddorol o dro i dro. Cynhelir twmpathau yn neuadd yr eglwys pedair gwaith bob blwyddyn. Ystyr enw y dref yw "bryncyn neu dwmpath uchel" (yr un ystyr ag enw Saesneg y dref, Mold: o'r Ffrangeg Normanaidd Monthault sy'n golygu "bryn uchel"). Yn ôl yr Athro Hywel Wyn Owen, mae'n debycach mai'r un 'gŵydd' yw hwn ac 'yn eich gŵydd' hy 'golwg' ac mai ystyr Yr Wyddgrug felly yw 'Bryn Amlwg'.[1]

Thumb
Yr Wyddgrug o gyfeiriad Bryniau Clwyd
Thumb
Ffordd Caer, Yr Wyddgrug
Thumb
Goleuadau'r Nadolig yn y dref
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Yr Wyddgrug
Thumb
Y stryd fawr a'r eglwys
Mathtref, cymuned 
Poblogaeth10,155 
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint 
Gwlad Cymru
Cyfesurynnau53.166°N 3.133°W 
Cod SYGW04000197, W04000995 
Cod OSSJ237640 
Cod postCH7 
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHannah Blythyn (Llafur)
AS/au y DUBecky Gittins (Llafur)
Thumb
Cau

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[3]

Hanes

Yn ôl traddodiad, ymladdwyd Brwydr Maes Garmon ar lecyn tua milltir i'r gorllewin o'r dref bresennol yn OC 430. Enillodd y Cymry y dydd, dan arweiniad Sant Garmon, yn erbyn eu gelynion paganaidd.

Cynhelid llys ar gylch Llywelyn ap Gruffudd yn y Wyddgrug ar 22 Gorffennaf, 1273. Roedd gan y Wyddgrug ei gastell yn yr Oesoedd Canol a nodir ei safle gan Fryn y Beili, sy'n ardd gyhoeddus bellach. Ym 1245, cafodd ei gipio gan Dafydd ap Llywelyn.

Addysg

Ceir dwy ysgol uwchradd yn Yr Wyddgrug, Ysgol Alun (Saesneg ei hiaith) ac Ysgol Maes Garmon (Cymraeg ei hiaith).

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Yr Wyddgrug (pob oed) (10,058)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Yr Wyddgrug) (2,051)
 
21.1%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Yr Wyddgrug) (6055)
 
60.2%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Yr Wyddgrug) (1,654)
 
38.3%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%
Cau

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug ym 1923, 1991 a 2007. Am wybodaeth bellach gweler:

Enwogion

Oriel

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.