Coleg addysg bellach dros sawl safle yn yr hen Sir Fflint a Dinbych From Wikipedia, the free encyclopedia
Lleolir Coleg Cambria yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac mae'n un o golegau addysg bellaf mwyaf y DU, [1] gyda dros 7,000 o fyfyrwyr amser llawn ac 20,000 o fyfyrwyr rhan-amser. Mae mae ganddo gysylltiadau rhyngwladol ar draws pedwar cyfandir. Crëwyd Coleg Cambria yn dilyn uno
Math | coleg |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Glannau Dyfrdwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.23°N 3.08°W |
Dechreuodd Coleg Cambria weithredu ar 1 Awst 2013. [2] Mae Coleg Cambria yn gymuned oedolion ifanc ar gyfer pobl 16 oed a hŷn. Mae'n rhan o rwydwaith i'r sector, ColegauCymru.
Mae’n gwasanaethu ardaloedd tri awdurdod lleol gyda chyfanswm poblogaeth o bron i 400,000: sef, oddeutu 12% o boblogaeth Cymru. [3] Mae'r coleg yn gweithio mewn partneriaeth â dros 1000 o gyflogwyr gan gynnwys Airbus, JCB, Kelloggs, Kronospan, Moneypenny, UPM Shotton Paper a Village Bakery . [3]
Enillodd Coleg Cambria Her Menter Fyd-eang 2015 . [4]
Ym mis Tachwedd 2015, cafodd y coleg ei arolygu gan Estyn a chafodd sgôr ardderchog o ran perfformiad presennol a rhagolygon gwella. [5]
Mae gan Goleg Cambria bum campws ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru: Glannau Dyfrdwy, Coleg Iâl gynt (Grove Park a Ffordd y Bers yn Wrecsam), Llysfasi, a Llaneurgain.
Coleg yw'r gair Cymraeg am goleg a Cambria yw'r enw Lladin am Gymru, yn tarddu o'r enw Cymraeg Cymru.
Mae'r coleg yn cynnig cyrsiau i ddysgu'r Gymraeg.[6] Cynhelir rhan gan Cymraeg i Oedolion (Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol), y Coleg a Canolfan Iaith Clwyd.
Cafodd y 'dyluniad sbectrwm' ei ddatblygu a'i ddewis gyda chefnogaeth gan fyfyrwyr, staff, Llywodraethwyr a busnesau lleol a'i fwriad yw dynodi amrywiaeth a chynwysoldeb y coleg. Mae'r marc sbectrwm hefyd yn ffurfio llythyren haniaethol C .
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.