ColegauCymru

Corff nid er elw yn gydlynu a hyrwyddo Colegau Addysg Bellach Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia

Mae ColegauCymru yn elusen addysg sy'n hyrwyddo budd cyhoeddus addysg bellach yng Nghymru. Mae'n gorff dielw a arweinir gan aelodau a sefydlwyd ym 1995 gan golegau Addysg Bellach (AB), i gynrychioli a hyrwyddo eu diddordebau ac addysg ôl-16. Mae pencadlys ColegauCymru yn Nhongwynlais ger Caerdydd.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechrau/Sefydlu ...
ColegauCymru
Enghraifft o:sefydliad elusennol 
Dechrau/Sefydlu1995 
PencadlysTongwynlais 
Cau

Mae hefyd yn ymgynnull Fforwm Penaethiaid Addysg Bellach, sy’n cynrychioli buddiannau darparwyr addysg bellach.

Prif Weithredwr y corff yn 2023 oedd David Hagendyk a'r Cadeirydd oedd Guy Lacey o Goleg Gwent.[1]

Cennad

Dywed cennad y corff eu bod yn credu fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o safon fyd-eang, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi.[2]

Mae'n bwriadu angos gwerth addysg bellach i'r holl ddysgwyr, y gymdeithas a'r economi.

Enw

Er bod yr enw'n uniaith Gymraeg, mae'r corff yn gweithredu'n ddwyieithog ac yn darparu gwasanaeth ddwyieithog. Ysgrifennir enw'r corff fel un gair, 'ColegauCymru', ac nid fel 'Colegau Cymru'.

Aelodau

Mae ColegauCymru'n cynnwys yr aelodau isod:[3]

Gwasanaethau Fforwm

Mae Fforwm Services Ltd yn gwmni cyfyngedig preifat ac yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Colegau Cymru. Mae'n blatfform ar gyfer cynnal gweithgareddau masnachol ac i ennill incwm su'n caniatau inni hwyluso digwyddiadau, hyfforddiant a chynadleddau yn benodol i'r sector.[4]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.