Estyn

Asiantaeth sy'n gyfrifol am arolygu ysgolion a hyfforddiant ysgol yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia

Asiantaeth sy'n gyfrifol am arolygu ysgolion a hyfforddiant ysgol yng Nghymru yw Estyn, a adnabyddir hefyd fel Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae'n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n gorff annibynnol.

Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu ysgolion ac adrodd ar gyrhaeddiadau ysgolion ar bob lefel o addysg ofynnol, yn cynnwys cylchoedd meithrin, rhaglenni a gyllidir gan y llywodraeth, a cholegau addysg uwch, yn cynnwys addysg i oedolion. Lleolir pencadlys Estyn yng Nghaerdydd. Daeth Bill Maxwell yn brif arolygydd yn 2008, bydd yn ymddeol ym mis Chwefror 2011.

Y corff sy'n cyfateb i Estyn yn yr Alban yw His Majesty's Inspectorate of Education (HMIE), ac yn Lloegr, Ofsted.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.