From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref gaerog lan y môr a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Dinbych-y-pysgod[1][2] (Saesneg: Tenby). Saif yn ne'r sir, ar Fae Caerfyrddin. Mae'n bosib y cafodd y lle ei sefydlu gan y Llychlynwyr. Datblygodd fel harbwr pysgota a phorthladd masnachu, a thyfodd tref o amgylch y castell sydd bellach yn adfeilion. Heddiw, mae Dinbych yn gyrchfan wyliau boblogaidd.
Math | tref bost, tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,696, 4,087 |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 625.67 ha |
Yn ffinio gyda | Hwlffordd |
Cyfesurynnau | 51.6714°N 4.6994°W |
Cod SYG | W04001032 |
Cod OS | SN129007 |
Cod post | SA70 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Henry Tufnell (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae'r atyniadau lleol yn cynnwys 4 km o draethau tywod, muriau hynafol y dref sy'n dyddio o'r 13g ac yn cynnwys Porth y Pum Bwa, Eglwys Fair sy'n dyddio o'r 15g, Tŷ'r Marsiandwr Tuduraidd (eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, amgueddfa'r dref â'i oriel, a rhan o Lwybr Arfordirol Sir Benfro. Mae cychod bach yn hwylio'n rheolaidd o harbwr Dinbych i Ynys Bŷr a'i mynachlog enwog. Gellir cyrraedd Ynys Catrin, yn y bae gyferbyn â'r dref, ar hyd sarn pan fo'r llanw'n isel.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[4]
Twristiaeth yw sail yr economi lleol. Mae'r dref yn denu miloedd o ymwelwyr o bob cwrdd o wledydd Prydain a thu hwnt yn yr haf.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Dinbych-y-pysgod (pob oed) (4,696) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dinbych-y-pysgod) (470) | 10.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dinbych-y-pysgod) (3017) | 64.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Dinbych-y-pysgod) (932) | 41.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Mae'r cyfeiriad cyntaf i'r dref i'w ganfod mewn cerdd o'r 7ed ganrif a geir yn Llyfr Taliesin. Ymddengys mai bryngaer oedd y dref yn y dyddiau hynny.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.