pentref a chymuned yn Sir Benfro From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro, Cymru, yw Hook.[1] Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r de o dref Hwlffordd ar lan Afon Cleddau Wen. Gelwir tro yn yr afon gerllaw yn Hook Bight.
![]() Capel Mynydd Seion, Hook | |
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 953 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.762°N 4.929°W |
Cod SYG | W04000942 |
Cod OS | SM979111 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
![]() | |
Ar un adeg roedd glo carreg o lofa Hook, un o'r rhai olaf fu'n gweithio yn Sir Benfro, yn cael ei allforio o Hook Quay. Defnyddid tramffordd i ddod a'r glo at y cei.
Dim ond yn 1999 y daeth Hook yn gymuned; cyn hynny roedd yn rhan o gymuned Llangwm.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 656.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Hook, Sir Benfro (pob oed) (838) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Hook, Sir Benfro) (106) | 13.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Hook, Sir Benfro) (568) | 67.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Hook, Sir Benfro) (119) | 36.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.