pentref yng Ngheredigion From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yn sir Ceredigion yw Llangwyryfon, yn yr hen amser Llangwyryddon. Saif ar y ffordd B4576, tua naw milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth. Mae Afon Wyre yn llifo trwy'r pentref.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 596, 558 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,188.36 ha |
Cyfesurynnau | 52.316°N 4.057°W |
Cod SYG | W04000383 |
Cod OS | SN599707 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Cysegrwyd yr eglwys i'r Santes Ursula a'r unarddeg mil o wyryfon a ferthyrwyd gyda hi. Roedd yr hen eglwys ynghanol y fynwent, ond yn 1879 adeiladwyd eglwys newydd tu allan i'r fynwent.
Cofnodir i Daniel Rowland, William Williams (Pantycelyn) a Howel Harris gynnal seiadau yma rhwng 1743 a 1750.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Ar 14 Mai 1826 – daeth 700 o Gymry at ei gilydd yn yr hyn a elwir yn Rhyfel y Sais Bach - gan atal Augustus Brackenbury, tirfeddiannwr cyfoethog o Swydd Lincoln rhag codi plasty yn Llangwyryfon. Yn dilyn y gwrthdaro, a dymchwel waliau'r adeilad, Ffodd am ei fywyd yn ôl i Loegr.[3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llangwyryfon (pob oed) (596) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangwyryfon) (342) | 59.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangwyryfon) (345) | 57.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangwyryfon) (73) | 29.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.