Pentref a chymuned yng nghanolbarth Ceredigion yw Llangeitho ( ynganiad ). Saif ym mhen uchaf Dyffryn Aeron ar lan ddwyreiniol Afon Aeron. Mae'r pentref ar groesfordd ar y B4342 7 milltir i'r gogledd o Lanbedr Pont Steffan.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 819, 742 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,829.07 ha |
Cyfesurynnau | 52.22°N 4.02°W |
Cod SYG | W04000380 |
Cod OS | SN679597 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Am ganrifoedd bu Llangeitho'n gadarnle i'r iaith Gymraeg, ond cafwyd mewnlifiad mawr yn y 1970au a arweiniodd at gwymp yn y canran o'r boblogaeth sy'n medru'r iaith o 83% yn 1971 i 55% yn 1981. Yn ôl cyfrifiad 2001 y ffigwr rwan yw 57%.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Hanes a hynafiaethau
Mae Llangeitho yn enwog yn hanes Cymru fel man geni y diwygiwr Methodistaidd Daniel Rowland, a aned yno yn 1713. Gwasanethodd fel curad yn Nantcwnlle a Llangeitho. Cododd gapel yn Llangeitho yn 1760 a ddaeth yn adnabyddus ledled Cymru fel canolfan Fethodistaidd. Tyrai bobl yn eu miloedd o bob rhan o'r wlad i wrando ar ei bregethau yn y capel hwnnw. Cafodd ei gladdu yn y pentref a cheir cofgolofn iddo yno. Cafwyd dau gapel arall i gymryd lle'r hen un, y cyntaf yn 1764 a'r ail yn 1814.[3]
Mae eglwys Llangeitho, sy'n sefyll ar ochr ogleddol y pentref, yn hynafol ond cafodd ei hatgyweirio'n sylweddol ar ddiwedd y 19g a difethwyd yr ysgrîn ddwbl ganoloesol hardd a'r hen risiau pren yn arwain i'r groglofft. Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl Sant Ceitho. Ceir Ffynnon Geitho gerllaw; dywedir fod ei dŵr yn oer yn yr haf ond yn gynnes yn y gaeaf.[3]
Yng nghyffiniau'r pentref ceir plasdy'r Cwrt Mawr, lle casglodd yr hynafiaethydd J. H. Davies y casgliad gwerthfawr o lawysgrifau Cymraeg a adwaenir fel Llawysgrifau Cwrtmawr, sy'n rhan o gasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhodd gan J. H. Davies.[3]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llangeitho (pob oed) (819) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangeitho) (430) | 54% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangeitho) (428) | 52.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangeitho) (152) | 41.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Gweler hefyd
- Sara Maria Saunders, awdures
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.