Remove ads
pentref yng Ngheredigion From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yng Ngheredigion, Cymru, yw Llangrannog ( ynganiad ). Saif ar arfordir. Mae ganddi 771 o drigolion, a 51% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).
Math | pentref, cyrchfan lan môr, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 703 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.1618°N 4.427°W |
Cod SYG | W04000382 |
Cod OS | SN312542 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae'n gartref i Wersyll yr Urdd.
Mae gan y pentre ddwy dafarn, Y Ship a'r Pentre Arms. Mae cysylltiadau cryf rhwng y Pentre Arms a Bois y Cilie. Cafodd Dylan Thomas ei wahardd o'r dafarn am helpu ei hunan i'r cwrw.[1]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llangrannog (pob oed) (775) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangrannog) (352) | 46.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangrannog) (384) | 49.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangrannog) (132) | 38.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Sant o ddiwedd y 5ed i ddechrau'r 6g oedd Carranog (ganwyd c. 470; Gwyddeleg: Cairnech; Llydaweg: Karanteg; Lladin: Carantocus; Saesneg: Carantoc; Cernyweg: Crantoc). Yn ôl y llawysgrif Progenies Keredic Regis de Keredigan, a sgwennwyd ar ddechrau'r 13g,[8] roedd yn fab i'r Brenin Ceredig, ond yn ôl Peniarth 12 ac 16 (a Iolo tud. 110 a 125) roedd yn fab i Corun ac felly'n ŵyr i Ceredig. Ceir felly peth dryswch yn ei gylch.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.