Mae Gwyddeleg (Gaeilge) yn iaith Geltaidd. Mae tua 1,800,000 o bobl yn Iwerddon yn siarad Gwyddeleg i raddau: 1,656,790 yng Ngweriniaeth Iwerddon (cyfrifiad 2006) a 167,487 yng Ngogledd Iwerddon (cyfrifiad 2001).
Gwyddeleg | ||
---|---|---|
Gaeilge | ||
Siaredir yn | Gweriniaeth Iwerddon (1.77 miliwn)[1] Y Deyrnas Unedig (95,000) America (18,000) Yr Undeb Ewropeaidd (iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd) | |
Rhanbarth | Gaeltachtaí, ond siaredir ar draws Iwerddon gyfan | |
Cyfanswm siaradwyr | 391,470 rhugl neu siaradwyr brodorol (1983)[2] Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae 1.77 miliwn o bobl (3 oed a throsodd) yn y Weriniaeth yn gallu siarad Gwyddeleg[1] | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd
| |
System ysgrifennu | Lladin (Amrywiad ar yr Wyddeleg) | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Gweriniaeth Iwerddon Yr Undeb Ewropeaidd | |
Iaith leiafrifol gydnabyddedig yn | Y Deyrnas Unedig -Gogledd Iwerddon | |
Rheoleiddir gan | Foras na Gaeilge | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | ga | |
ISO 639-2 | gle | |
ISO 639-3 | gle | |
Wylfa Ieithoedd | – |
Datblygodd yr Wyddeleg o'r iaith Geltaidd hynafol a elwir yn Oedeleg (arferir yr enw 'Celteg Q' yn ogystal; rhan o 'Gelteg P' oedd Brythoneg, rhagflaenydd y Gymraeg). Gaeleg a Manaweg ydyw'r ieithoedd Goedelaidd eraill. Maent yn fwy tebyg i'w gilydd nag ydyw'r Gymraeg i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Bu ymfudo rhwng Iwerddon a gorllewin yr Alban am ganrifoedd, ac mae traddodiad llenyddol yr Wyddeleg a'r Aeleg yn deillio o'r traddodiad Hen Wyddeleg ac orgraff y ddwy iaith yn rhannu nodweddion cyffredin. Fel yn achos y Gymraeg mae'n arfer rhannu hanes yr iaith yn dri chyfnod, sef Gwyddeleg Diweddar, Gwyddeleg Canol a Hen Wyddeleg.
Mae'r Wyddeleg wedi cilio fel iaith gymunedol naturiol llawer mwy na'r Gymraeg, ond mae gan yr ardaloedd lle mae Gwyddeleg yn dal yn iaith lafar gymunedol gydnabyddiaeth swyddogol. Nifer o ardaloedd bach gwledig ydynt, wedi'u gwasgaru ar draws saith sir, a elwir gyda'i gilydd yn ardaloedd y Gaeltacht.
Blwyddyn | Nifer y siaradwyr Gwyddeleg | Canran y siaradwyr Gwyddeleg |
---|---|---|
1861 | 1,077,087 | 24.5 |
1871 | 804,547 | 19.8 |
1881 | 924,781 | 23.9 |
1891 | 664,387 | 19.2 |
1901 | 619,710 | 19.2 |
1911 | 553,717 | 17.6 |
1926 | 543,511 | 18.3 |
1926 | 540,802 | 19.3 |
1936 | 666,601 | 23.7 |
1946 | 588,725 | 21.2 |
1961 | 716,420 | 27.2 |
1971 | 789,429 | 28.3 |
1981 | 1,018,413 | 31.6 |
1986 | 1,042,701 | 31.1 |
1991 | 1,095,830 | 32.5 |
1996 | 1,430,205 | 41.1 |
2002 | 1,570,894 | 41.9 |
2006 | 1,656,790 | 40.8 |
2011 | 1,774,437 | 40.6 |
Sail: Iwerddon gyfan at 1926, y Weriniaeth ers hynny[3]
- Bó - buwch
- Fear - dyn
- Duine - bod dynol
- Gealach - lleuad (lloer)
- Grian - haul
- Sliabh - mynydd
- Trá - traeth
- Maith - da
- Glan - glân
- Beag - bach
- Mór - mawr
- Leabhar - llyfr
- Gorm - glas
- Glas - gwyrdd
- Dubh - du
- Tine - tân
- Am - amser
- Aimsir - tywydd
- Dia Dhuit - siwmai / sut mae?
- Conas atá tú? - sut wyt ti? /sut ydych chi?
- An-mhaith - da iawn
- Go raibh maith agat - diolch
- Mise freisin - finnau hefyd
- B'fhéidir - efallai
- Níl a fhios agam - Dw i ddim yn gwybod / Wn i ddim
- Ba mhaith liom... - Hoffwn i...
- Cad is ainm duit? - Beth yw'ch enw chi?
- Seán is ainm dom - Fy enw i yw Seán
- Is mise Seán - Seán wyf i
- Le do thoil - os gwelwch yn dda
- Ní thuigim - Dw i ddim yn deall
- Nílim cinnte - Dw i ddim yn siŵr
- Cá bhfuil an t-ostán? - Ble mae'r gwesty?
- An dtuigeann tú Gaeilge?" - Wyt ti'n deall Gwyddeleg?
- Tuigim beagán Gaeilge." - Rwy'n deall tipyn bach o Wyddeleg
- Is breá liom.. - Rwy'n hoffi...
- Tá sé fuar inniú - Mae hi'n oer heddiw.
- Tá brón orm - Mae'n flin gyda fi / mae'n ddrwg gen i
- Slán - Hwyl
Y Rhifau
Cymraeg | un | dau | tri | pedwar | pump | chwech | saith | wyth | naw | deg |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | aon | dó | trí | ceathair | cúig | sé | seacht | ocht | naoi | deich |
Rhagenwau
Cymraeg | fi/i | ti | fe/e | hi | ni | chi | nhw |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | mé | tú | sé / é | sí / í | sinn | sibh | iad |
Meddiant
Cymraeg | fy nhŷ | dy dŷ | ei dŷ | ei thŷ | ein tŷ | eich tŷ | eu tŷ |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | mo theach | do theach | a theach | a teach | ár dteach | bhur dteach | a dteach |
Gw - F
Cymraeg | gŵr | gwyn | gwell | gwin | gwlyb | gwir | gwan | gwyddbwyll | gwylan |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | fear | fionn (golau) | fearr | fíon | fliuch | fíor | fann | ficheall | faoileán |
P - C
Cymraeg | pa | pwy | pen | pedwar | pump | plant | mab | Pasg | pawb | pren |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | cad | cé | ceann | ceathair | cúig | clann | mac | Cáisc | cách | crann |
H - S
Cymraeg | haul | halen | haf | hen | hynny | hi |
---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | súil (llygad) | salann | samhradh | sean | sin | sí |
- Gaeltacht
- Llenyddiaeth Wyddeleg
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.