From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bach ar lannau gogleddol Dyffryn Teifi, Ceredigion, yw Llandyfrïog, sy'n cael ei enw o sant Briog.[1]
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 1,835, 1,765 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,985.04 ha |
Cyfesurynnau | 52°N 4.4°W |
Cod SYG | W04000374 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Mae ardal Cyngor Cymuned Llandyfriog yn ymestyn o Horeb yn y dwyrain i Adpar, maes-tref Castellnewydd Emlyn yn y gorllewin ac yn cynnwys pentrefi Aber-banc, Henllan, a Phenrhiw-llan. Yn Adpar, sefydlwyd y wasg gyntaf yng Nghymru ac ymladdwyd yr ornest (duel) olaf yng ngwledydd Prydain. Mae tua deuparth o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ond cafodd bron i 40% o drigolion yr ardal eu geni tu allan i Gymru.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]
Un hynodrwydd i'r pentref yw ei fod, fel Llandybïe yn sillafu'r i-dot gyda didolnod. Gwneir hyn er mwyn dangos bod yr i-dot yn cael ei ynganu fel llythyren ar ei phen ei hun.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.