pentref yng Ngheredigion From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Llandyfrïog, Ngheredigion yw Henllan ( ynganiad ). Saif ar isffyrdd oddi ar ffordd yr A484 o Aberteifi i Gaerfyrddin, tua 4 milltir i’r dwyrain i Gastellnewydd Emlyn a bellach, oherwydd datblygiadau llawn bylchau mae wedi ymuno â phentref bach 'Trebedw'. Saif y pentref i'r de i Reilffordd Dyffryn Teifi yng nghanol coetiroedd serth (llawer ohonynt â Gorchmynion Cadw Coed arnynt) yn Nyffryn Teifi.
![]() | |
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llandyfrïog |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.0391°N 4.3962°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Mae rhagor na 90 o aneddau yn Henllan. Mae yno swyddfa bost a chyfleusterau cymunedol lleol; mae'n dibynnu ar Aber-banc am ysgol gynradd ac ar Gastellnewydd Emlyn am siopau a gwasanaethau eraill. Caiff yr iaith Gymraeg ei siarad yn feunyddiol yno. Mae Henllan ar lwybr bysys rhwng Llandysul a Chastellnewydd Emlyn, ac mae gwasanaeth dyddiol arno. Mae nifer o fentrau yn y pentref, gan gynnwys yr hen orsaf reilffordd, sy'n ganolfan i Gymdeithas Gwarchod Rheilffordd Dyffryn Teifi, ac yn gyfleuster twristaidd pwysig i'r ardal. Ceir ystafelloedd arwerthu yn y pentref ac i’r de mae hen wersyll carcharorion rhyfel sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion diwydiant ysgafn a storio bellach.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.